Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fe fydd Dyfi yn rhagori
Ymhell ar holl borthladdoedd Cymru;
Bydd ei masnach yn rhyfeddod
Yn yr oesoedd maith i ddyfod."

Y mae haner can' mlynedd er pan y canodd y proffwyd, ond nid oes eto ryw lawer o'r cyfoeth wedi dod i'r golwg. Er hyny ceir arwyddion fod rhai o'i broffwydoliaethau eisoes wedi eu cyflawni. Y mae Chwarelau Llechau wedi troi allan yn llwyddianus mewn dwy ardal. Chwarelau Llechau Corris ac Aberllyfeni ydyw y rhai agosaf o ran maint a phwysigrwydd yn Sir Feirionydd i Chwarelau Ffestiniog, a Chwarel Abergynolwyn, neu Bryneglwys, ydyw y drydedd o ran pwysigrwydd; cyfoeth yr olaf wedi ei dtladblygu o fewn y 30ain mlynedd diweddaf, a'r rhai cyntaf o fewn y 60ain mlynedd diweddaf. Heblaw yn y ddwy ardal hyn, nid oes dim cyfoeth o bwys wedi ei gael o'r ddaear, ond yr hyn a geir ar ei gwyneb. O'r chwe' phlwy sy'n gwneyd i fyny y rhanbarth, plwy' Towyn ydyw y pwysicaf a'r cyfoethocaf. O fewn y plwy' hwn, y mae Aberdyfi, porthladd ac ymdrochle o gryn bwysigrwydd: a phentref tawel Bryncrug ar lan yr afon Dysyni. Poblogaeth y plwy' yn 1871 ydoedd 3307. Yr agosaf ato mewn pwysig- rwydd ydyw plwy' Tal-y-llyn. Poblogaeth yn 1807, 633; ac yn 1861, 1284. Y mae Corris ac Abergynolwyn wedi cynyddu llawer mewn poblogaeth yr haner can' mlynedd diweddaf, ar gyfrif y llech-chwarelau sydd ynddynt; a Thowyn ac Aberdyfi wedi cynyddu, ar gyfrif agoriad Rheilffordd Glanau Cymru. Nid oes cynydd o bwys wedi bod yn un rhan arall o'r wlad; yn hytrach lleihau y mae y rhanau amaethyddol yn barhaus.

Gyda golwg ar hynafiaethau, ac olion brwydrau a rhyfeloedd canrifoedd a aethant heibio, mae y wlad yn gyfoethog mewn dyddordeb. Ond amcan y sylwadau hyn yn unig ydyw rhoddi ychydig grybwyllion cyffredinol. Y mae eglwys y plwyf, Towyn, yn dra hynafol. Tebyg ydyw ddarfod i'r adeiliad presenol gael ei adeiladu yn y ddeuddegfed ganrif, gan ei bod