Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddaear." Cymerwyd ef ymaith cyn hir wedi ei ddewis yn flaenor, er siomedigaeth i'w gyfeillion a cholled fawr i'r achos. Yr oedd ef yn fab i Thomas Edwards, y gŵr a roddodd dir i adeiladu y capel cyntaf. Mae y teulu hwn wedi bod, ac yn parhau hyd heddyw, fel "llwyth Lefi," yn dra pharod i gymeryd rhan bwysig gyda gwasanaeth y cysegr. Y mae coffadwriaeth Mrs. Ellin Edwards, Ceinws, yn barchus yn yr ardal, fel un a fu yn lletya gweision yr Arglwydd, ac yn gwasanaethu iddynt hyd ddiwedd ei hoes.

Y nesaf a ddewiswyd yn swyddog ar ol y ddau uchod, hyd eithaf ein gwybodaeth, oedd Mr. W. Lewis, sydd yn flaenor yn awr yn Aberllefeni. Wedi hyny Mr. John Evans; yn ddiweddarach, Mri. Thomas Morgan a William Edwards; ac yn ddiweddaf oll, Mr. John Owen.

Richard Lumley oedd yn flaenor yma y rhan ddiweddaf o'i oes. Symudodd amryw weithiau, a bu yn flaenor mewn amryw eglwysi. Dyn tawel, diargyhoedd, a chrefyddol ei ysbryd ydoedd ef. Nodweddid ei gymeriad gan lareidd-dra, ac "ysbryd addfwyn a llonydd."

BETHANIA (CORRIS)

Hon ydyw y gangen olaf a ymadawodd o eglwys Corris, ac nid oes mo'r ugain mlynedd er pan yr aeth yn hollol ar ei phen ei hun. Rhan o ardal Corris ydyw y lle hwn eto, a'r rhan uchaf o'r ardal yn yr ystyr fwyaf priodol o'r gair. Yr ymadrodd a arferir am y gymydogaeth yn fwyaf cyffredin yn y cylchoedd agosaf ydyw, Top Corris. Ac mewn cysylltiad â threfniadau sirol a gwladol dechreuir galw y lle yn awr yn Upper Corris. Mor bell yn ol ag 1840, cynhelid Ysgol Sul yn y rhan yma o'r ardal yn Tymawr, a Cwmeiddaw. Wedi hyny cedwid hi yn yr addoldy cyntaf a adeiladwyd gan y Wesleyaid yn y gymydogaeth, a elwid y Capel Bach. Adeilad bychan bach oedd hwn, yn ateb i'w enw, wedi ei adeiladu ar fin yr hen ffordd, wrth ymyl Tŷ'nyceunant, a bron yn y fan a'r