Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/199

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Methodistiaid Calfinaidd yma wedi ei sefydlu wyth neu ddeng mlynedd yn flaenorol.

Nid oedd yr un capel wedi ei adeiladu i addoli ynddo o gwbl yn y dref am dros ddeng mlynedd wedi hyn. Yn ddamweiniol y cafwyd tir i adeiladu capel i'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd y môr cyn hyn, fel y crybwyllwyd, yn dyfod hyd at y dref. Oddeutu yr amser yma, pasiwyd deddf i sychu y morfa, ac i wneyd clawdd llanw gyda glân afon Dysyni. Gorphenwyd gwneuthur y clawdd llanw yn y flwyddyn 1807. Ac ar raniad tir y morfa, daeth peth o hono gerllaw hen gapel y Gwalia i ran Mr. Peter Peters, mab-yn-nghyfraith Francis Hugh. Cafwyd rhwym-weithred ar ddernyn o'r tir yma i adeiladu capel arno, am dymor o 99 mlynedd, yn ol 5s. o ardreth flynyddol. Dyddiad y weithred ydyw Mehefin 1af, 1814. Yn y flwyddyn 1842, trosglwyddwyd y tir yn feddiant i'r Cyfundeb am £5, ac yn Nghyfarfod Misol Aberdyfi, Chwefror 23ain, yr un flwyddyn, cyflwynwyd diolchgarwch gwresog y frawdoliaeth i Mrs. Peters, a'i merch, Mrs. Cadben Barrow, am eu caredigrwydd yn cyflwyno y tir yn rhydd-feddiant am y pris hwn. Y Parch. Hugh Jones, Towyn, mewn ychydig nodiadau o hanes ei fywyd ei hun, a ddywed,—"Pan ddaethum at grefydd gyntaf, cynhelid yr achos gan hen ŵr o'r enw Francis Hugh. Yn fuan wedi marw yr hen ŵr, cefais inau y fraint o gynal yr achos; a'r pryd yma, yr oeddym mewn angen am adeiladu capel. Bum yn gofyn am le i adeiladu gan amryw bersonau, ond gwrthodent fi oll. Ond yn rhagluniaethol, daeth ychydig o dir cymwys i feddiant mab-yn-nghyfraith Francis Hugh, a chaniataodd ef ein deisyfiad ar y telerau canlynol:—£10 i lawr, a 10s. [5s.] o ground rent; ac aethum inau gyda'r brys mwyaf i Benmachno, i'r Cyfarfod Misol, i fynegi y newydd, ac addawodd y Cyfarfod Misol £200 i'n helpu i ddwyn y draul. Dechreuwyd ag adeiladu y capel yn ddioed, a chefais lawer o gymorth gan Harri Jones, Nantymynach. Cynorthwyai fi i osod y gwaith coed a maen i'r seiri. Yr oeddwn i a'r Harri