Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Methodistiaid yn gyfatebol, fel yr aeth hen gapel y Gwalia yn fwy na llawn, ac yr oedd ei safle yn rhy anghyfleus, a'r olwg arno yn rhy oedranus i gyfarfod chwaeth yr oes bresenol. Symudwyd lle y deml i fan tra chyfleus a dymunol, yr ochr arall i'r dref Rhoddwyd y tir yn rhad yn feddiant i'r Cyfundeb gan Mr. Hugh Thomas, yr hwn a fu yn hir yn drysorydd yr eglwys. Adeiladwyd y capel yn 1871. Aeth traul yr adeilad, a'r tŷ sydd yn gysylltiedig âg ef, yn £1500. Y flwyddyn hon (1887) rhoddir oriel o amgylch y capel, yr hyn a bâr iddo gynwys gryn lawer ychwaneg i eistedd.

Coffheir am enwau rhai aelodau a fuont dra gwasanaethgar i'r achos yn yr amser gynt, nad oeddynt yn swyddogion yn yr eglwys. Mae enw Francis Hugh wedi cael ei goffa gyda. pharch gan amryw o'i olynwyr, fel un o golofnau cyntaf yr eglwys. Ei deulu ar ei ol, Peter Peters a Cadben Barrow, a'u. gwragedd, a fuont yn dra ffyddlon i gynal yr achos ac i letya y proffwydi. Griffith Evans, gynt o'r Dolaugwyn, hefyd, oedd yn un o'r ffyddloniaid.

Edward Williams. Efe mae'n ymddangos oedd blaenor cyntaf yr eglwys. Efe a ddeffrowyd gyntaf yn y dref fel blaenffrwyth llu o waredigion yr Arglwydd. Efe fu dan yr erledigaeth fawr, ac y cofrestrwyd ei dŷ yn y Porthgwyn i bregethu yn 1795. Efe fu yn foddion i osod y sylfaen i lawr, ar yr hon y goruwchadeiladodd eraill. Ar gyfrif ei zel a'i wroldeb, fel pioneer yn y cychwyn cyntaf, teilynga gael bod ar ben rhestr ffyddloniaid yr eglwys. Cafodd oes hir, a pharhaodd ei zel yn ddiball i'r diwedd. Treuliodd ran olaf ei oes yn Aberdyfi. Ac fel prawf o'i agosrwydd yn byw at yr Arglwydd, dywedir iddo gael rhyw ddatguddiad am yr amser y byddai farw; daeth i Dowyn i ffarwelio â'i berthynasau, a dywedodd y byddai ymhen hyn a hyn o wythnosau wedi gadael y ddaear; ac megis y dywedodd, felly y bu. Oddeutu 1810, pan oedd Cymanfaoedd Ysgolion Cymru yn eu gogoniant, cynhelid cymanfa yn Nhowyn, ac ysgolion y cylch wedi dyfod ynghyd,