Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daeth i le y tad fel swyddog a bu ynddi hyd y diwedd. Y mae adgofion lawer am dano hyd heddyw fel Cristion da ac un o wyr bucheddol yr eglwys. Yr ydoedd yn fethiantus yn niwedd ei oes, ond bu fyw hyd amser y diwygiad diweddaf.

Hugh Edward. Hen Gristion diamheuol, ond wedi myned ymlaen mewn dyddiau cyn ei ddewis yn flaenor. Bu yn was gyda John Jones, Penyparc, gyda'r hwn y cawsai hyfforddiant yn y ffydd a threfniadau y Cyfundeb. Am ei dduwioldeb, nid oedd gan ei gymydogion yr un amheuaeth. Pan oedd yn glaf o'r clefyd y bu farw o hono, dywedai wrth gyfaill aethai i edrych am dano, Pryd bynag y clywch chwi fy mod i wedi myn'd, yn y nefoedd y byddaf fi."

John Daniel, Pantyneuadd, a ddewiswyd gan yr eglwys yn flaenor, ond a fu farw ymhen deng mis ar ol hyny, Ionawr 1886.

Mr. E. Newell a fu yn flaenor yn yr eglwys Gymraeg am flynyddoedd, ond ar ffurfiad yr eglwys Saesneg symudodd yno. Mr. W. Rees a Mr. Thomas Jones, Coethle, fuont ddynion blaenllaw yn yr eglwys. Ceir eu hanes yn y benod ar "Flaenoriaid Hynotaf y Dosbarth." Mr. Hammond oedd un arall o'r blaenoriaid, yr hwn a ymfudodd ychydig flynyddau yn ol i'r America. Y blaenoriad yn awr ydynt, Mri. G. Jones, D. Daniel, John Humphreys, J. Maethlon James, a Meredith Jones.

Bu y Parch. W. James, B.A., Manchester, yn weinidog ar yr eglwys hon mewn cysylltiad ag Aberdyfi, o 1863 i 1866. Y Parch. J. H. Symond ydyw gweinidog rheolaidd yr eglwys yn awr er y flwyddyn 1876.

Y PARCH. HUGH JONES. Bu enw yr hybarch weinidog yn gysylltiedig â'r achos crefyddol yn Nhowyn am gryn lawer yn hwy na haner canrif. Bu yn aelod o'r eglwys am ddeng mlynedd a thriugain, er pan yn 16 oed hyd yr adeg y bu farw, yn gyflawn o ddyddiau, yn mis Hydref, 1873. "Ganwyd fi," ebe fe, "yn y flwyddyn 1786, tua dechreu mis Rhagfyr, a