Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/210

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos newydd neu godi capel yn rhywle o hyd." Diameu na buasai achos y Methodistiaid ddim y peth ydyw heddyw yn y Dosbarth, oni bai fod Hugh Jones wedi bod ynddo yn byw. Nid oedd ond pregethwr o'r doniau bychain ar hyd ei oes, eto yr oedd golwg urddasol ar ei berson, ac yr oedd ei ffyddlondeb tuhwnt i'r cyffredin. Aeth yn ol yn ei amgylchiadau bydol, ac yn niwedd ei oes yr oedd wedi colli ei olwg, er hyny parhai i ddyfod yn gyson i'r moddion i wrando, a phan y digwyddai i'r pregethwr dori ei gyhoeddiad, ni byddai raid ond taro llaw ar ysgwydd Hugh Jones, a dweyd wrtho yn ei eisteddle o dan y pulpud na ddaeth y pregethwr ddim i'w gyhoeddiad, neidiai i fyny ar ei union i'r pulpud i bregethu. Arhôdd ei fwa yn gryf hyd y diwedd. Bu farw yn 87 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am 60 mlynedd.

PENNAL

Ardal ydyw Pennal ar gwr eithaf Sir Feirionydd, yn gwynebu i'r De, ac afon Dyfi yn ei gwahanu oddiwrth siroedd Aberteifi a Threfaldwyn. Mae gwaelod yr ardal, am beth pellder oddiwrth afon Dyfi, yn wastadedd, a'r bryniau yn haner cylch o'r tu arall iddi, yn ei chysgodi oddiwrth wynt y Gogledd a'r Gorllewin. Saif y pentref o fewn agos i 4 milldir i Machynlleth, a 6 milldir i Aberdyfi, a'r ffordd fawr yr hen Turnpike Road—sydd yn arwain o'r naill i'r llall, yn myned drwyddo. Nid oes bron ddim o hanes Methodistiaid yr ardal, yn yr amser boreuol, wedi ei gofnodi yn un man. Yr oedd ugain mlynedd o'r ganrif hon wedi myned heibio cyn bod yma gapel, ac anhawdd ydyw cael fawr o'r hanes yn flaenorol i hyny. Aeth yr ugain mlynedd cyntaf y tybir fod yma achos agos oll ar goll, am na chofnodwyd dim o'r hanes. Nis gellir cael allan, ychwaith, o gwbl pa bryd y ffurfiwyd yr eglwys. Gellir casglu na chymerodd hyn le yn fore, oherwydd agosrwydd yr ardal i Fachynlleth, a hysbys ydyw fod erledigaeth chwerw wedi bod yn y dref hono, fel na ddechreuwyd achos