Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo ei gofio hyd heddyw. Yr oedd ef yn hen ŵr wrth ei ddwy ffon, ac ebe fe, "Dafydd bach, cofia'r adnod yma yn y tai y byddi yn gweithio, a lle bynag y byddi di, Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy ger dŷ fron, O Arglwydd, fy nghraig a'm prynwr.' Yr oedd Dafydd Evan, ei fab, fel yntau, yn flaenor ac yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau.

Arthur Evan, y crydd.—Brodor o Bennal, symudodd i Mallwyd, a daeth yma drachefn i dreulio diwedd ei oes. Dyn crefyddol, distaw, a diymhongar, a gweithiwr diwyd ymhob cylch. Elai i Maethlon i helpu i gynal y moddion, ac oherwydd ei fod yn weddïwr mor rhagorol, mawr fyddai y disgwyliad am dano. Ystyrid ef yn fwy crefyddol na neb yn y wlad, a thystiolaeth gref i brofi hyny ydyw y ffaith a ganlyn. Pan oedd David Rowland yn fachgen bychan, heb ddyfod eto i feddu syniad uwch na syniad plentyn, os digwyddai iddi fod yn fellt a tharanau, rhedai gan ofn i'r gweithdy, at Arthur Evan, ac unwaith y byddai wrth ochr yr hen Gristion, teimlai yn berffaith ddiogel, ac ni hidiai ddim wedy'n pa faint fyddai erchylldra y mellt a'r taranau. Mae ei enw ef wrth Weithred Gyfansoddiadol y Cyfundeb, yn y flwyddyn 1827, wedi ei sillebu yn ol tafodiaith yr ardal, Arthir Evans, Pennal, County of Merioneth, Shoemaker.

Ymfudodd Lewis Jones a Morgan William i'r America. Symudodd Robert Evans hefyd o'r Ynys i Rhydygarnedd, Llanegryn, a pharhaodd yn flaenor zelog yno hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd John Jones yn dad i'r Parch. Evan Jones, Caernarfon. Symudodd yntau i Benegoes, a bu farw mewn oedran Patriarchaidd, a'r fendith ar ei ben. Yr oedd Morgan Jones, Esgirweddan, a Hugh Jones, Gelligraian, yn ddau frawd, ac yn amaethwyr mwyaf cyfrifol yr ardal. Rhoddai eu sefyllfa dda yn y byd fwy o fantais iddynt wasanaethu crefydd na neb a fu yn blaenori yn yr eglwys o'u blaen. Buont ill dau yn arwain yr achos am flynyddoedd, hyd nes y lluddiwyd iddynt gan angau