Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/238

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyniad cyntaf. Blaenor neu olygwr ar eglwys Bryncrug ydoedd ef, a'r gangen fechan yn Abertrinant yn gwbl dan ei ofal. Ar ol ei farw ef, daeth ei fab, Morris Jones, yn flaenor yn ei le, ac yr ydoedd yntau yn fab teilwng i dad teilwng. Gellid meddwl fod y mab yn rhagori ar y tad mewn rhyw bethau, oblegid yn ei amser ef yr adeiladwyd y capel cyntaf yn yr ardal. Teilynga teulu Nantymynach fwy o sylw na'r cyffredin oherwydd eu cysylltiad â'r achos. Heblaw tŷ Griffith Owen y cyfeiriwyd ato, Nantymynach oedd cartrefle achos crefydd yn yr ardal am oddeutu deng mlynedd a thriugain; yno yr oedd llety y pregethwyr o'r dechreu, ac yno y buont hyd farwolaeth Morris Jones, ac i sicrhau yr un fraint i'r teulu, gwnaeth Morris Jones yn ei ewyllys iddynt gael bod yno ar ol ei ddydd ef, tra byddai byw ei briod. Ac fe gyflawnwyd yr ewyllys. Priododd Mrs. Jones drachefn un o'r enw David Jones, o Fachynlleth. Aelod gyda'r Annibynwyr oedd ef, ac am ychydig ar ol priodi elai i Fryncrug, at ei bobl ei hun. Ymhen peth amser, dywedai wrth Hugh Owen, y Tyno, "Daf fi ddim at y Sentars eto, mae yn gam â'r wraig a'r plant bach acw i mi fyn'd." Cafwyd Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, yno i dderbyn Mr. Jones at y Methodistiaid, yr hwn a ddywedai wrth ei dderbyn, "Dydym ni ddim yn eich rhwymo chwi i beidio myned at eich pobl eto yn awr ac yn y man." "O na, Mr. Humphreys," ebe yntau, "nid oes arnaf fi ddim eisiau myned byth mwy—yn gwbl oll bellach." Neillduwyd ef yn flaenor yn 1852. Parhaodd y tŷ yn llety pregethwyr am flynyddoedd wedi hyn, hyd nes y symudodd y teulu o'r ardal i fyw. Bu John Jones, un o feibion y briodas hon, yn flaenor cymeradwy yn y Dyffryn, ac y mae dau eraill o'r meibion yn ffyddlon gyda'r achos yn America.

Yn Mai, 1840, yr oedd y brodyr Hugh Owen a John Humphreys yn cael eu neillduo i fod yn flaenoriaid yn Abertrinant. Symudodd Hugh Owen i Maethlon, ac ynglyn â'r lle hwnw yr oedd yn fwyaf adnabyddus. John Hum-