Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/251

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Defnyddir ei waelod yn bresenol yn Market Hall; ac yn y llofft uwchben y cynhelir yr holl foddion perthynol i'r eglwys Saesneg. Rhoddwyd gallery ar y capel hwn yn 1855, gyda thraul o 120p., a'r tro hwn talwyd yr oll ar ei orpheniad. Wedi adeiladu y capel y tro cyntaf, cynyddodd yr achos yn fawr; daeth amryw o grefyddwyr da, a rhai cefnog arnynt yn y byd, yma i fyw, ac o'r dydd hwnw allan, daeth yr achos yn gryf o'i gymharu â'r hyn oedd wedi bod o'r blaen.

Y blaenor cyntaf yn Aberdyfi oedd John Williams, neu fel gelwid ef yn gyffredin, Sion William y carpenter. Dewiswyd ef rywbryd cyn diwedd y flwyddyn 1826. Yr oedd wedi bod gyda'r achos yn hir cyn hyny. Efe, fel y tybir, oedd yr un dyn a wnai i fyny yr eglwys gyda y chwiorydd pan y ceir eu henwau gyntaf; efe, hefyd, oedd yn arwain y canu yn y Storehouse. Yn union ar ol ei ddewis ef, teimlodd yr eglwys ei bod wedi gwneyd camgymeriad na buasai yn dewis Owen Williams gydag ef, a gofynwyd am ganiatad y Cyfarfod Misol i'w wneuthur yntau yn flaenor cyn diwedd yr un flwyddyn, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Abermaw, yn mis Mawrth, 1827. Bu ef yn cymeryd mwy o ran gyda'r achos na neb arall o'r amser hwn hyd ddydd ei farwolaeth. John Jones, brawd y Parch. W. Jones, Llanerchllin, a fu yn flaenor yma am flynyddoedd. Dyn crefyddol, pwyllog, trwm ei, farn, a mawr ei ddylanwad. Owen Jones, Leaden Hall, a ddaeth yma o Sir Fflint yn ŵr cefnog o ran pethau y byd, ac yn flaenor gweithgar. Mr. Foulkes, mab i'r diweddar Barch. Mr. Foulkes, Machynlleth, a ddaeth yma i breswylio rywbryd tuag 1850. Yr oedd ef yn wr cyfoethog, a bu yn gefn mawr i'r achos am dros ugain mlynedd. Rhoddai yn haelionus o'i gyfoeth at achosion crefyddol, fel y mae arfer ei deulu wedi bod ymhob man, a chynorthwyai bregethwyr a gweinidogion a ddeuent yma â phethau angenrheidiol at gynal dyn. Edward Williams, sylfaenydd yr achos yn Towyn, a fu yn flaenor yma y rhan olaf ei oes. Derbyniwyd Richard Hughes a Lewis