Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/267

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tebyg ydyw fod dynion o'r fath ysbryd a zel a hwy wedi bod yn effro gyda gwaith yr ysgol yr amser hwn. Heblaw hyny, yr oedd William Hugh yn un o ysgolfeistriaid Mr. Charles. Yr oedd John Ellis, Abermaw, hefyd, yn un o'r ysgolfeistriaid hyny, a bu ef yn cadw yr ysgol gylchynol yn Llwyngwril ac Abergynolwyn, a digon tebyg i eraill fod yn cadw yr ysgol hono yn y gwahanol ardaloedd. Yr oedd John Jones, Penyparc, wedi dechreu cadw ei ysgol yntau rywbryd cyn 1794. Bu ef yn flaenllaw gyda phob symudiad er llesoli yr ardalwyr hyn ar hyd ei oes, ac nid oes dim yn fwy tebyg na'i fod yn un o'r rhai cyntaf i roddi cychwyniad i'r Ysgol Sul. Crybwyllir am dano, yn hanes Lewis William, fel wedi ei dechreu rywbryd cyn hyn. Ac yn wir, mae y ffaith i John Jones, Penyparc, fod yn cadw ysgol ddyddiol lwyddianus, am yr holl flynyddoedd hyn, yn yr amser boreuol hwn, yn un rheswm cryf, fel y ceir gweled eto, dros fod y Dosbarth hwn o'r sir wedi bod mor flaenllaw gyda gwaith yr Ysgol Sul yr haner cyntaf o'r ganrif bresenol. Yn ystod y ddwy flynedd olaf o'r ganrif ddiweddaf, oherwydd ei dosturi tros anwybodaeth ieuenctyd pentref Llanegryn, yr anturiodd Lewis William ar y gwaith hwn yno. Penderfynodd geisio sefydlu ysgol ar y Sabbath, a rhai o nosweithiau yr wythnos, i'w haddysgu i ddarllen. Ni chawsai ei hun ddiwrnod erioed o ysgol ddyddiol na Sabbothol; ac nis gallai ddarllen bron air yn gywir. Nis gwyddai fod dim tebyg i Ysgol Sabbothol wedi ei sefydlu y pryd hwnw trwy yr oll o Orllewin Meirionydd, ond gan John Jones, Penyparc." Ychydig grybwyllion fel y rhai hyn yn unig sydd ar gael am yr Ysgol Sabbothol yn y Dosbarth hyd ddechreu y ganrif bresenol.

I—YR YSGOLION DYDDIOL CYLCHYNOL

Y mae yn hysbys fod y rhai hyn wedi eu sefydlu gan Mr. Charles, fel rhag-redegwyr yr Ysgol Sabbothol. Fel hyn y dywed ef ei hun mewn llythyr yn 1811, at Mr. Anderson, o Edinburgh, un o ysgrifenyddion y Gaelic society: "Yr ysgolion