Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/272

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darllen, canu, a gweddïo, dosbarthwyd yr ysgol yn ddwy ran, sef yn athrawon ac yn ysgolheigion. Neillduwyd deuddeg yn athrawon ac athrawesau, ac y mae eu henwau oll ar gael; trefnwyd 5 o ddosbarthiadau meibion, a 7 o ddosbarthiadau merched. Wedi hyny galwyd ar yr athrawon o'r neilldu i ethol arolygwr, ac ar L. W. ei hun y syrthiodd y coelbren. Wedi ei benodi ef, ac i'r dosbarthiadau ddewis eu hathrawon a'u hathrawesau yn gyhoeddus, rhoddodd yr arolygwr orchymyn iddynt oll i weithredu. Ceir ganddo hanes manwl o weithrediadau yr ysgol am yr ail a'r trydydd Sul ar ol ei sefydliad, y benod a ddarllenid, a'r penill a genid ar ddechreu a diwedd yr ysgol bob tro.

Cyfarfyddid â gwrthwynebiadau mawrion dros rai blynyddoedd yn y dechreu, i gynal ysgol ar y Sabbath, a phlant yn unig fyddai yn ei gwneyd i fyny mewn llawer man am gryn amser. Wedi ei dechreu gollyngid hi i lawr yn fynych o ddiffyg cefnogaeth i'w chynal. "Ni pharhawyd yn ffyddlon," ebe yr hen bregethwr Owen Williams, Towyn, "gyda'r Ysgol Sabbothol yn Bryncrug yn hir. Gollyngwyd hi i lawr, a gadawyd pawb yn rhyddion, a'u ffrwynau ar eu gwarau, i wneyd pob drwg yn un chwant." Ond ail ymaflyd yn y gwaith drachefn a thrachefn, er gwaethaf anhawsderau, y byddai ffyddloniaid yr ysgol, nes bob yn dipyn, trwy amrywiol oruchwyliaethau y Llywodraethwr mawr, yr enillwyd y wlad o'i phlaid. Mae y llythyr canlynol yn engraifft o'r anhaws— derau, yn ddiweddarach ar oes yr ysgol, a gyfarfyddai yr hen bobl i'w chario ymlaen —

Aberdyfi,

Ionawr 25ain, 1817.

"Anwyl Frawd,

Mi gefais genadwri gan y Cyfarfod Chwechwythnosol yn Llwyngwril, i'w thraddodi i ysgrifenydd y cyfarfod, sef John Jones, iddo ef ysgrifenu atoch, oherwydd fod y cyfarfod wedi clywed eich bod wedi rhoddi yr Ysgol Sabbothol i fyny, i gael