Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/278

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond y tri hyn weithiodd fwyaf. Meddai y Parch. Owen Jones ar allu tuhwnt i'r cyffredin i holwyddori yn gyhoeddus, a rhoddai ei zel a'i frwdaniaeth adgyfodiad a bywyd yn yr ysgol lle bynag y byddai. Yr oedd ef gyda gwaith yr Ysgol Sul yn ei elfen, fel pysgodyn yn y môr, neu aderyn ar ei hedfa. Sir Drefaldwyn a gafodd fwyaf o'i wasanaeth, gan mai yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes gyhoeddus. Ar rai adegau, yn enwedig yn y blynyddoedd cyntaf ar ol ei symudiad yno i fyw, deuai i'r sir hon i holwyddori yr ysgolion yn gyhoeddus, pan oedd y Cymanfaoedd Ysgolion cyntaf yn anterth eu gogoniant, ac y mae rhai o'r hen bobl sydd yn fyw yn awr yn cofio yn dda y fath fywyd a gynyrchodd y pryd hwnw yn y rhan yma o winllan yr Arglwydd Iesu. Ceir gweled yn mhellach ymlaen mai efe a fu yn offeryn i roddi cychwyniad i'r Cyfarfodydd Ysgolion. Yr oedd cylch gwasanaeth John Jones, Penyparc, yn eang, yn gyson, a pharhaus. Bu Lewis Williams yn cadw yr ysgol ddyddiol gylchynol yn yr holl ardaloedd hyn, a hyny lawer gwaith yn yr un lle, o dro i dro, rhwng 1800 ac 1825. Y mae yn syndod meddwl am y gwaith mawr a wnaeth ef i achos crefydd yn ddidrwst a diymffrost am y chwarter cyntaf o'r ganrif. Cyn belled ag y mae Dosbarth rhwng y Ddwy Afon a Dosbarth Dolgellau yn myned, y mae Lewis Williams yn haeddu colofn goffadwriaeth cân uwched a'r uwchaf o arweinwyr crefydd yn Nghymru.

Y pedwar cyfnod y bu cynydd ar yr Ysgol Sabbothol yn yr haner can' mlynedd cyntaf o'i hanes oeddynt —1. Tymor cyntaf y Cymanfaoedd Ysgolion oddeutu 1808, gan gynwys yr adeg y dygwyd cyflawnder o'r Gair sanctaidd i'r wlad mewn canlyniad i sefydliad Cymdeithas y Beiblau; —2, ordeiniad gweinidogion y Methodistiaid yn 1811; 3, diwygiad mawr Beddgelert 1818—1820; 4, Jiwbili yr Ysgol Sabbothol yn 1832. Ceir fod y pedwar amgylchiad uchod wedi dylanwadu rhyw gymaint yn yr ardaloedd hyn, er cryfhau y sefydliad. Ond tra sicr ydyw mai yr hyn a elwid Diwygiad Beddgelert a