Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/284

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Safai dosbarth rhwng y Ddwy Afon ar flaen y rhestr, ac yr oedd y dosbarth hwn yn gwingo yn erbyn i'r Cyfarfod Ysgol fod mor anaml ag unwaith bob dau fis. Buwyd yn dra ffodus i ddyfod o hyd i'r penderfyniadau hyn, gan eu bod yn rhoddi gwybodaeth i ni am y cyfarfodydd dau—fisol, ac am eu ffurfiad i'w sefyllfa arhosol. Un peth a welir yn amlwg ynddynt ydyw, fod y Methodistiaid y pryd hwn yn Drefnyddion gwirioneddol, a'u bod yn llawn awyddfryd, nid am eu lleshad eu hunain, ond lleshad eu gilydd, a lleshad yr achos yn gyffredinol. Peth arall a welir ydyw, fod yr offerynau, neu y pregethwyr i ofalu am y cyfarfodydd yn anaml iawn o'u cymharu â'r hyn ydynt yn awr. Mor bwysig oedd gwaith yr Ysgol Sabbothol yn ngolwg y tadau hefyd, fel yr oeddynt yn dwyn eu trefniadau ynglŷn â'r gwaith i'w cadarnhau gan y Gymdeithasfa. Erys y Dosbarthiadau Ysgolion yr un fath yn awr ag yr oeddynt driugain ac wyth o flynyddau yn ol, oddieithr fod Trawsfynydd wedi ei lyncu yn ol drachefn gan Ffestiniog, a bod y dosbarth hwn, oherwydd lliosogrwydd y boblogaeth, wedi myned yn fwy na llon'd ei ddillad, ac wedi ad-drefnu ei hun rhyw ddeng mlynedd yn ol i dair adran. Yn 1820, yr oedd y pedwar dosbarth yn unffurf ymhob peth, a'r naill ddosbarth yn gwybod hanes y llall, a'r naill yn barod i helpu y llall mewn pob hyfforddiant a chynorthwy. Wedi hyny, collasant bron bob gwybodaeth am eu gilydd, ac aeth pob un i gadw business ei hun, ac i gadw ei gyfrifon ei hun. Ni wyddai y naill ddosbarth ddim o helyntion y llall am flynyddau lawer hyd 1870, pryd y penodwyd ysgrifenydd i'r Ysgol Sabbothol o fewn cylch y Cyfarfod Misol. Y flwyddyn hono, tynwyd allan gyfrifon unffurf i'w cadw gan bob dosbarth, a chadarnhawyd hwy gan y Cyfarfod Misol. O hyny hyd yn awr cyhoeddir y cyfrifon yn flynyddol, ac y mae erbyn hyn lawer mwy o wybodaeth yn un rhanbarth beth a wneir yn y rhanbarth arall. Ac y mae y Cyfarfod Ysgolion rhwng y Ddwy Afon wedi bod, yr ugain mlynedd diweddaf, yn llawn