Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/286

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwener y Groglith, 1865. Yn ol y rhaglen, yr enw ar hwn oedd, Cyfarfod Cystadleuol perthynol i Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nosbarth Towyn." Aethpwyd i ddyled gyda'r cyfarfod hwn, a bu wedi hyny fwlch o dair blynedd heb yr un cyfarfod. Amlwg ydyw fod y cyfarfodydd hyn wedi eu trefnu gan y Cyfarfod Ysgolion. Y Parch. W. Davies, Llanegryn, oedd yn llywyddu y cyfarfod cyntaf yn Mhennal. Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol rheolaidd cyntaf yn Abergynolwyn, Medi laf, 1868. Yr enw ar hwn oedd, Cymanfa Ysgolion Dosbarth y Ddwy Afon. Y Llywyddion oeddynt y Parchn. William Davies, Llanegryn, ac Ebenezer Jones, Abergynolwyn. Dywedai un o'r llywyddion yn ei sylwadau agoriadol "Yr ydym wedi cael cyfarfodydd rywbeth yn debyg o'r blaen, ond yn awr yr ydym yn sefydlu Cymanfa Ysgolion ar gynllun mwy eang, ac ar sylfaeni mwy parhaol, ac yr ydym yn credu y bydd iddi barhau bellach tra byddo y Methodistiaid mewn bod." Edrychai rhai ar y sylw hwn gyda llygaid a chalon angrhediniol. Modd bynag, mae y Gymanfa wedi parhau i gael ei chynal yn ddifwlch bob blwyddyn hyd yn awr. Ymhen blynyddoedd a ddaw, diameu y bydd rhaglen y gyntaf a gynhaliwyd, yr hon sydd ar gael a chadw, yn llawn dyddordeb. Cynhaliwyd y Gymanfa hyd yma ar gylch yn yr ysgolion liosocaf, ac mae y lleoedd sydd yn ei derbyn yn garedig yn dwyn y draul eu hunain mewn ymborth a llety, a'r holl ysgolion yn cyd-gyfranu at dreuliau eraill y Gymanfa. Cynhelir dau gyfarfod cyhoeddus, y prydnhawn a'r hwyr, a chyfarfod yn y boreu o swyddogion y Cyfarfod Ysgol, cynrycholwyr yr ysgolion, a gweinidogion y dosbarth, i fwrw golwg dros y cyfrifon, i ddewis swyddogion, ac i drefnu gwaith yr ysgolion am y flwyddyn ddilynol. Yr ydys wedi amcanu o'r dechreu i ddyfod ag amrywiaeth i mewn iddi, a chymerir llawer o drafferth gan y personau sydd yn trefnu y gwaith bob blwyddyn i wneuthur hyn. Bu llawer o broffwydi y blynyddoedd cyntaf yn proffwydo ei marwolaeth, ac fe gafodd lwgfa