Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/302

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Traethodydd am 1847. "Yr ydym yn deall yn awr fod yr hen bererin hybarch, Mr. John Jones, o Benyparc, wedi gorphen ei yrfa, a myned i dangnefedd er's rhai misoedd bellach; ac y mae yn syn genym na welsom gymaint a chrybwylliad am ei farwolaeth mewn na Thrysorfa nac un lle arall. Nid gŵr cyffredin yn ei oes oedd Mr. Jones. Yr oedd yn Gristion disglaer, yn wladwr da, yn ddarllenwr mawr, yn ieithydd ac ysgrifenydd medrus, yn ddiacon gweithgar, ac yn athraw defnyddiol. A'i gymeryd ymhob peth nid hawdd y ceid ei gyffelyb." Yn llyfr cofnodion Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, Awst 4ydd, 1816, ceir y sylw canlynol,—

"Coffhawd am farwolaeth yr hen athraw ffyddlon a duwiol, Mr. John Jones, Penyparc, gerllaw Towyn—a dymunwyd ar yr ysgolion feddwl am brynu y Silliadur gwerthfawr a wnaeth at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Rhoddwyd hefyd ar Mr. Williams, a Mr. R. O. Rees, Dolgellau, i ysgrifenu coffadwriaeth am dano i'r Drysorfa." Eto, yn Nghyfarfod Misol y Bwlch, Mai 25ain, 1848, "Anogwyd ar fod i'r cyfeillion a benodwyd arnynt yn Nghyfarfod Misol Llanelltyd, Awst, 1846, i feddwl am gyflawni y gorchwyl a ymddiriedwyd iddynt o ysgrifenu i'r Drysorfa goffadwriaeth am y diweddar anwyl frawd, Mr. John Jones, Penyparc," Drachefn, yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, Mawrth 29ain, 1849, "Dymunwyd ar y Parch. Mr. Morgan, i wneuthur Cofiant i'r hen frawd Mr. John Jones, Penyparc, a'i anfon i'r Drysorfa, am na wnaed gan y brodyr a benodwyd i hyny o'r blaen." Ond er penderfynu deirgwaith, ni ysgrifenwyd dim hyd heddyw. Ac y mae yn anhawdd yn yr amser pell hwn ar ol ei farwolaeth ysgrifenu llawer mewn trefn am y gwaith a wnaeth. Digon yw y crybwyllion hyn i ddangos y sefyllfa uchel y safai ef ynddi yn ngolwg ei gydwladwyr ar gyfrif y gwasanaeth a wnaethai gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu. Yr oedd John Jones, yn ei glefyd olaf yn bur isel ei feddwl. Dywedai y brawd oedd yn gwylied gydag ef, na byddai i'r Arglwydd ddim ei adael ac yntau wedi bod mor