Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/316

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wneuthur yr hyn oedd iawn, daeth yn ddirwestwr trwyadl am y rheswm a ganlyn—Cawsai ar ddeall rywbryd fod rhyw ddyn yn y dref yn gwrthod dyfod yn ddirwestwr "am nad oedd Mr. Rees yn ddirwestwr;" clywodd yntau hyny, a phenderfynodd o hyny allan i fod yn llwyrymwrthodwr, a chadwodd yn drwyadl at ei benderfyniad. Bu yn glaf am ysbaid lled faith unwaith, ac aeth yr eglwys i weddïo yn daer am iddo gael ei adferu. Yn y cyfarfod eglwysig cyntaf y daeth iddo ar ol gwella, diolchai yn gynes i'r brodyr a'r chwiorydd am weddïo drosto. Byddai yn hynod o deimladwy wrth drin pob achos yn yr eglwys. Tynai ddwfr o lygaid rhai hyd yn nod wrth holi yr Hyfforddwr. Yr oedd yn awyddus iawn i adferu rhai wedi myned ar gyfeiliorn, ac yn dra medrus i wneuthur hyny. Rhoddwyd iddo bob swydd o ymddiried yn y dref lle y preswyllai, a gelwid arno i gymeryd rhan ymhob cyfarfod cyhoeddus.

Fel blaenor yn eglwys Towyn, ac aelod o Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, llanwodd le anrhydeddus am dros 40 mlynedd. Syrthiodd cyfrifoldeb yr achos yn Nhowyn yn benaf arno ef yr holl amser yna. Gwnaeth waith mawr i'r eglwys, trwy ofalu am yr achos yn ei holl ranau; gwasanaethodd "swydd diacon yn dda," ac enillodd iddo ei hun "radd dda;" a thrwy ei lafur a'i ddyfal barhad cyrhaeddodd "hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu." Ffydd, sicrwydd ffydd, a hyder mawr yn y ffydd oeddynt linellau amlwg yn nghymeriad Mr. Rees. Ei olwg siriol, ei dymer hynaws, a gwresog-rwydd ei ymadroddion, a barai ei fod yn wastad yn gymeradwy ymhlith lliaws ei frodyr. Dichon nad oedd yn gymaint diwygiwr a llawer un, ac feallai nad oedd yn gweled yn glir i'r dyfodol i gymeryd camrau breision ymlaen, ac i dori i dir newydd, ond nid oedd yn ol i neb mewn zel pan y gwelai y cwmwl yn codi, a'r golofn yn cychwyn. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol ei ddewis yn flaenor, yr ydys yn gweled ei enw yn fynych ar lyfr cofnodion y Cyfarfod Misol gyda holl symudiadau