Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/326

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddau fyd, a llwyddodd, i fesur helaeth, gyda y naill a'r llall. Yr oedd y byd yn llwyddo a chrefydd yn llwyddo gyda'u gilydd iddo ef. Yr oedd ganddo fferm fawr, gwasanaethyddion lawer, trafferthion fwy na mwy, dwy filldir o ffordd i'r capel, a hyny yn orifyny a goriwared, ac eto ni fyddai moddion crefyddol yn y capel trwy y flwyddyn round na fyddai ef ynddynt, os byddai gartref ac yn iach; ac ni fyddai yno neb mor barod ei feddwl i gydio mewn pethau crefydd. Yr oedd yn ei elfen yn darllen ac yn holi ynghylch pynciau. Y fath syndod oedd hyny, ac yntau yn ngafael â'r byd trwy gydol ei oes, ac yn dwyn teulu mawr i fyny. Ei brif lyfrau oeddynt, James Hughes, y Geiriadur, Gurnal, a Dr. Owen. Tybir nad oedd ond un lleygwr yn y sir wedi meistroli yr epistolau cystal âg ef. Arferai ddweyd mai yr hyn a barodd iddo ddechreu astudio yr epistolau oedd y dadleuon Calfinaidd ac Arminaidd a ffynent yn y wlad pan oedd ef yn ddyn ieuanc.

Bu yn flaenor eglwysig am yn agos i haner can' mlynedd—am bedair blynedd ar ddeg, neu rywle o gwmpas hyny, yn y Graig, Sir Aberteifi; am bedair blynedd ar ddeg yn Mhennal, ac am un mlynedd ar hugain yn Maethlon. Ymhlith blaenoriaid Gorllewin Meirionydd, yr oedd efe yn dywysog ac yn ŵr mawr. Nid oedd mor gyhoeddus ac amlwg yn y Cyfarfod Misol, a chyda threfniadau allanol yr achos, a llawer, ond fel blaenor eglwysig yn y cylchoedd cartrefol, yr ydoedd mor gymwys a blaenllaw a neb. Credai yn gryf mewn gwaith, ac awyddfryd ei enaid fyddai myned ymlaen, ac nid aros yn yr unfan. Pan yr oedd yn preswylio yn Mhennal, yr oedd y Parch. Richard Humphreys yn byw yno yn mlynyddoedd olaf ei oes y ddau o gyffelyb ysbryd, ac yn gyfeillion mawr. Adroddir rhai hanesion dyddorol am danynt. Yr oedd gweinidog yn y daith un Sabbath, ac wedi galw i edrych am Mr. Humphreys yn ei waeledd, yr hwn a ofynai i'r gweinidog, "Ymha le yr oeddych yn lletya neithiwr?" "Yn yr Ynys,"