Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/333

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amgylchiadau yr oes, er achubiaeth y rhai gynt oeddynt amlwg yn blant y diafol. Bryd arall, deuai rhai o hyd i wir grefydd pan y deuent am y tro cyntaf i gyffyrddiad a dilynwyr Crist, fel y marw yn cael ei fywhau wrth gyffwrdd âg esgyrn Eliseus. Canlyniad naturiol y fath bethau ydoedd, nid yn unig eu bod hwy yn grefyddwyr o'r iawn ryw eu hunain, ond eu bod hefyd yn sicr o adael eu hol ar y wlad. Yr oedd eu crefydd yn heintus ac yn ymosodol. Un o arwyddion yr oes apostolaidd ar grefyddwyr cyntaf Cymru oedd, eu bod yn ymwasgu at eu gilydd. Yr oeddynt fel yr apostolion hefyd yn dra amlwg yn y gras o helpu eu gilydd, ac yn arbenig o helpu y gwan. Dyma, fe ddichon, y gras y rhagorent uwchaf ynddo—Dygwch feichiau eich gilydd." Y peth cyntaf y mae gwir grefyddwyr yn ei wneyd ar ol cael crefydd eu hunain ydyw, cael eu cymydogion a'u cyd-ddynion i feddiant o'r un grefydd. Felly y gwnaent hwythau. Wedi sefydlu achos bychan mewn rhyw fan, yr ydym yn eu cael, bron yn ddieithriad, yn myned i gynorthwyo achosion gwanach mewn lleoedd cyfagos, weithiau bob yn ddau a dau, dro arall bob yn un. Hyd yn nod pan na byddai achos ardaloedd eraill yn wanach na'u hachos hwy eu hunain, byddent, er hyny, yn myned o'r naill fan i'r llall i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddïo, ac i gadw societies. Rhai heb fod yn bregethwyr na blaenoriaid a wnaent hyn yn y dechreu, yn unig am fod cariad Crist yn eu cymell. Y brodyr o Ddolgellau a ddeuent, er pelled y ffordd, i gynorthwyo ardaloedd rhwng y Ddwy Afon i gynal y moddion. Laweroedd o weithiau y cychwynodd Sion Vychan Vach, â thamaid yn ei logell, o Lwyngwril ar foreu Sabbath i roddi cynorthwy drwy ddarllen, gweddïo, a chynghori, yn yr ardaloedd cymydogaethol, ac ni ddychwelai adref hyd hwyr y nos. Y Bwlch a fu yn cynorthwyo llawer ar Lanegryn. Llanegryn a Chorris drachefn, mewn amser diweddarach, a roddent eu cynorthwy bob yn ail fis i Abergynolwyn, Pennal a Thowyn a roddasant lawer o help yn yr un modd i Maethlon. Am yr haner canrif