Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/334

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf, yr elfen amlycaf o rinwedd Cristionogol yn eu plith ydoedd, eu bod yn cynorthwyo eu gilydd, ac yn arbenig yn cynorthwyo y lleoedd gweiniaid.

Bu amddiffyn yr Arglwydd yn dra amlwg dros ei bobl a'i achos yn y blynyddoedd cyntaf, ac effeithiodd hyny i ladd llawer ar y gwrthwynebiad i'r "grefydd newydd" fel y gelwid hi. Mewn amgylchiadau afrifed y cafwyd engreifftiau o'r amddiffyniad dwyfol yn ein gwlad. Yn ychwanegol at y crybwyllion a wnaed am hyn o fewn terfynau eglwysig y rhan- barth hwn, ceir hanes yn Methodistiaeth Cymru, I. 548, am waredigaeth nodedig i un o'r hen gynghorwyr, Dafydd Cadwaladr, fel y tybir, yn ardal Llanegryn:—

"Yr oeddwn," medd y gŵr ei hun, "yn dyfod ar foreu Sabbath o Aberdyfi i Lanegryn i bregethu. Pan oeddwn yn dyfod ar hyd y traeth tua Thowyn, Meirionydd, gwelwn ddyn yn dyfod i'm cyfarfod, a chan sefyll o fy mlaen gofynodd i mi, "Ai chwi yw y gŵr sydd yn myned i Lanegryn heddyw?' 'Ie,' atebais inau. 'Wel, fe'ch lleddir chwi yn sicr; y maent yn penderfynu gwneyd; a mi a ddaethum yn un swydd i fynegu i chwi.' Yn sicr, yr oedd ei ddywediad yn hynod o effeithiol. Rhedai i'm meddwl yn ddiorphwys. Pa beth os rhagrithiwr ydwyf! Yna, os lladdant fi, yn uffern y byddaf yn y fan! Yna safwn enyd, ac ail feddyliwn, a disgynwn ar y penderfyniad nad oeddwn yn rhagrithiwr, ac mai braint fawr i mi a fyddai cael marw yn ferthyr i achos a thros enw Iesu Grist. Hyn a barai i mi fyned ymlaen yn wrol. Canlynodd y gŵr fi am lawer o filldiroedd, nes dyfod dros bont Syni; yna, efe a safodd, a dywedodd, 'Wel, druan, mi a welaf mai i Lanegryn y mynwch chwi fyned, ac yn wir, mae yn ddrwg genyf i ddyn fel chwi gael ei ladd. Ni ddeuaf fi yn mhellach, onide ni allaf ddisgwyl ond yr un driniaeth a chwithau; dyma i chwi ddwy geiniog; ewch i'r tŷ tafarn a gelwch am eu gwerth o gwrw; ac os llwyddwch i gael teulu y dafarn o'ch plaid, ni