Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/340

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyn toriad y wawr dranoeth, cyfeiriai Dafydd Edward a Mary tua thŷ Mr. Charles. Gwelent oleu yn y study. Curodd Dafydd Edward y drws, ac agorodd Mr. Charles ef ei hun. Wedi i Dafydd Edward roddi eglurhad ar eu hymweliad boreuol, holai Mr. Charles yr eneth am ei hanes personol, a'i gwybodaeth Ysgrythyrol, a pha fodd y llwyddasai i gyraedd gwybodaeth mor helaeth o'r Beibl, a hithau heb yr un ei hun. Adroddodd hithau yr hanes am y cerdded i'r ffermdy, ddwy filldir o'i chartref, bob wythnos am y chwe' blynedd blaenorol, i ddarllen a thrysori yn ei chof benodau o'r Beibl benthyg, a'r casglu gofalus o'i cheiniogau tuag at wneyd i fyny y swm oedd ganddi yn ei llogell i brynu Beibl ganddo ef. Effeithiodd yr hanes hynod yn ddwys ar Mr. Charles, a dywedai :" Mae yn ddrwg dros ben genyf weled yr eneth fechan wedi dyfod yr holl ffordd o Lanfihangel yma, i geisio am Feibl a minau heb yr un iddi gael. Mae yr holl Feiblau a gefais o Lundain i gyd ar ben er's misoedd, ond rhyw ychydig o gopiau sydd yma i gyfeillion yr wyf wedi addaw eu cadw iddynt. Beth a wnaf am Feiblau Cymraeg eto, nis gwn Dywedai Mr. Charles y geiriau hyn gyda theimlad dwys, a thrywanent glustiau a chalon yr eneth ieuanc fel cynifer o bicellau llymion, ac oherwydd ei siomiant dwfn, torodd allan i wylo dros y tŷ. Effeithiodd ei wylofain hi ac eiriolaeth yr hen bregethwr, Dafydd Edward, drosti, gymaint ar Mr. Charles, fel y methodd ei gwrthod. "Wel, fy ngeneth anwyl i" meddai wrthi, "mi welaf y rhaid i ti gael Beibl; er mor anhawdd ydyw i mi roddi un heb siomi cyfeillion eraill, mae yn anmhosibl i mi dŷ wrthod." Yna estynai Mr. Charles Feibl i Mary, ac estynai Mary iddo yntau yr arian am dano.

Wylai yr eneth fwy o lawenydd yn awr nag y gwnai o dristwch o'r blaen. Yr oedd ei dagrau yn heintus. Effeithient ar bawb oedd yn yr ystafell. Wylai Mr. Charles; wylai Dafydd Edward yn yr olwg ar ei dagrau hi. "Os ydyw yn dda genyt ti, fy ngeneth i, gael Beibl," ebe Mr. Charles, "mae