Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/376

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iad â'r lle yn bresenol, ynghyd a darn a werthwyd at y Rock Cottage. Dechreuwyd adeiladu y capel yn union, ac yr oedd yn barod Mai 1809. Dywedir mai efe oedd y capel mwyaf yn Ngwynedd ar y pryd, a byddai ambell bregethwr yn dwrdio yn arw am i bobl Dolgellau ryfygu gwneuthur capel mor fawr, Gwerthwyd yr hen gapel ynghyd a'r tai perthynol iddo i'r Annibynwyr am £500. Oddeutu y pryd hwn y ffurfiwyd eglwys gan yr Annibynwyr yn y dref. A bu y ddau enwad yn cyd-addoli yn hen gapel y Methodistiaid am flwyddyn, hyd nes y daeth capel Salem yn barod. Bellach, wedi ymsefydlu yn yr addoldy eang, llwyddodd eglwys y Methodistiaid yn fawr. O hyny allan daeth yn achos cryf, ac y mae Dolgellan wedi bod o'r pryd hwnw hyd yn awr yn ganolbwynt achos crefydd yn y rhan Orllewinol o Sir Feirionydd. Fel y cyfryw y mae yn bri- odol edrych ar symudiadau yr achos yma gyda graddau mwy o fanylrwydd.

Yr Ysgol Ddyddiol a Lewis William

Yr oedd cysylltiad agos rhwng yr ysgol ddyddiol â chrefydd tua diwedd y ganrif ddiweddaf, a dechreu y ganrif bresenol. Ac yr oedd dyfodiad L. W. i ardal, i gadw ysgol, yr un peth o'r bron a dyfodiad diwygiad crefyddol i'r ardal hono. Byddai cryn lawer o ymladd yn y gwahanol ardaloedd am dano, a hyny oblegid ymlyniad y plant wrtho, a'r dylanwad crefyddol a adawai ar y plant ymhob man lle yr elai. Cyfodai Ysgolion Sabbothol lle bynag y byddai yn aros, neu ail gyfodai y rhai fyddai wedi myned i lawr. Byddai yr addysg a gyfranai bron yn gwbl yn addysg grefyddol. Bu yn Nolgellau ar wahanol adegau yn cadw ysgol ddyddiol. Yr oedd yma yn 1801, pryd, fel y ceir gweled eto, y gwnaeth waith canmoladwy ynglŷn â'r Ysgol Sabbothol. Drachefn, yn 1815 ac 1817. Dechreuodd ar ei waith, y flwyddyn olaf a enwyd, Mawrth 3ydd, a pharhaodd ei gysylltiad â'r ysgol hyd Hydref yr un flwyddyn. Yr oedd Mr. Charles wedi marw y pryd hwn er's tair blynedd, ond parhai