hadeiladu yn ychwanegol yn y dref. Yn canlyn gwelir y rhif yn nghapel Salem ar dri amser gwahanol, gan gymeryd fel yr ail gyfrif y flwyddyn flaenorol i fynediad yr eglwysi yn Bethel ac yn y capel Saesneg allan o hono:—
Cymunwyr | Ysgol Sul | Gwrandawyr | |
1815 | 113 | — | — |
1876 | 361 | 614 | 900 |
1886 | 304 | 445 | 660 |
Pe rhoddid y ddwy eglwys eraill at Salem yn y cyfrif diweddaf fel y ceir y rhif yn yr Ystadegau safai fel y canlyn-Cymunwyr 518; Ysgol Sul 741; gwrandawyr 1025. Gwelir fod y cynydd yn fawr yn ystod deng mlynedd o amser. Am weithgarwch Eglwys Salem trwy yr holl flynyddau, teilynga bob clod. Bu ei haelioni yn fawr tuagat yr achos Cenhadol o'r dechreuad. Sefydlwyd yma gynllun newydd mor foreu â'r flwyddyn 1829, yr hwn a ddygwyd i'r dref gan y Mri. Davies a Williams, masnachwyr, sef cynal cyfarfod cenhadol unwaith yn y mis, ar ol y bregeth nos Sabbath. Penodir brodyr o'r eglwys ymlaen llaw i areithio yn y cyfarfod. Y mae yma drysorydd i'r meibion a thrysoryddes i'r merched, a'r un modd i'r bechgyn a'r genethod, a gwelir yn fynych gydymgais canmoladwy i ragori y naill ar y llall yn swm y casgliad. Dygodd y cynllun ffrwyth daionus er's llawer o amser, ac y mae yn para yn llwyddianus hyd yn awr. Dangoswyd haelioni hefyd yn wastad gan yr eglwys hon tuag at y tlodion. Yma yr arferid cynal y Cyfarfod Misol blynyddol yn mis Ionawr, dros dymor maith, hyd nes yn lled ddiweddar y trefnwyd iddo fod bob dwy flynedd. Yn y dref hon, hefyd, megys y crybwyllwyd, yr arferid cynal yr holl Gymdeithasfaoedd chwarterol. Ac y mae yma do ar ol to o bobl gryfion ac ewyllysgar wedi bod yn gweithio gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu.
Yn 1831 y gwnaethpwyd y fynwent y tu cefn i'r capel, ac y claddwyd y cyntaf ynddi. Cafodd capel Salem ei gofrestru i briodi Ionawr 1840. Priodwyd y par cyntaf ynddo, sef Evan