Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/386

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddynt y blaenoriaid cyntaf. Mae enwau y ddau i'w cael wedi arwyddo gweithred y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn y dref fel ymddiriedolwyr. Am danynt hwy yr oedd Robert Sion Oliver yn diolch mor gynes i'r Arglwydd yn ei weddi hynod. Nid oes llawer o'u hanes i'w gael erbyn hyn; ond mae yn ddigon sier fod y ddau yn dra ffyddlon gyda'r achos. Yr oedd Hugh Lloyd yn un o'r rhai a aeth i Gorris a Llanerchgoediog i gynorthwyo y gorthrymedigion oedd wedi cael eu dirywio yn erledigaeth fawr 1795. Bu ef farw Rhagfyr 3ydd, 1801, yn 43 mlwydd oed. Mae disgynyddion y ddau flaenor cyntaf hyn yn parhau yn ffyddlon gyda'r achos yn Salem hyd heddyw.

Thomas Pugh.—Yr oedd ef yn foneddwr Cristionogol, a'r cyntaf o'r cyfryw a fu wedi hyny yn Nolgellau, ac a ystyrid yn dywysogion ymhlith blaenoriaid y Methodistiaid. Bu yn foddion arbenig i gyfodi crefydd i sylw yn y dref, oherwydd ei rodiad gweddus, ei grefydd bur, a'i sefyllfa uchel yn y byd, Aeth i Lundain pan yn lled ieuanc, a bu yn farsiandwr llwyddianus yno am nifer o flynyddoedd. Yno yr ymunodd mewn priodas, Mai 29, 1787, â Miss Mary Evans, yr hon oedd yn enedigol o Lanrwst. Y mae cofnodiad i Mr. Charles fod yn eu tŷ yn 1792, yn bedyddio merch iddynt, ac yn eu tŷ hwy y byddai y gŵr parchedig yn lletya pan yn ymweled â'r brif ddinas. Mr. Charles, hefyd, a ddylanwadodd ar Mr. Pugh i ddyfod i fyw i Sir Feirionydd, yr hyn a gymerodd le tua diwedd 1795. Yr oedd yma felly yn lled fuan ar ol agor y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn y dref. Agorodd ei ddrws ar unwaith i letya gweision yr Arglwydd, ac un o'r pethau pwysicaf a gofiai ei blant,—un o ba rai oedd priod y diweddar Barch. David Jones, Treborth, wedi tyfu i fyny ydoedd, y croesaw mawr a roddid i bregethwyr ar aelwyd eu rhieni. Yr oedd y gras hwn mor amlwg yn yr anedd hon, fel y dywedir iddo ddylanwadu ar deuluoedd eraill y dref i feithrin lletygarwch. Prynodd Mr. Pugh geffyl hefyd, yn benaf, ebe Mr. Humphreys o'r Dyffryn,