Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/408

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddechreu pregethu. Er mwyn iddo gael help i ddeall meddwl yr Arglwydd yn y gorchwyl pwysig hwn, efe a ddywed y byddai yn ceisio dal sylw ar gynghorion y rhai mwyaf ysbrydol a deallus. "Gall y goreu o ddynion gamgymeryd," ebai, "ac y mae 'gan bob pen ei opiniwn.' Pan y dangosodd John Bunyan ei Daith Pererin gyntaf i'w gyfeillion, yr oeddynt yn dweyd,

'John, print it; others said, Not so;
Some said, It may do good; others said, No.'

Ond erbyn hyn, mae pawb o ddeall ymysg pob enwad yn barod i gyd—ddywedyd â Mr. Toplady, 'Bydd Taith Pererin Bunyan o ddefnydd gwastadol i bobl Dduw cyhyd ag y parhao haul a lleuad.' Yn gyffelyb y mae gyda phregethwyr; rhai am iddynt fyned ymlaen, ac eraill yn barnu y dylent aros yn ol." Ar ol dechreu pregethu parhaodd yn ddidroi yn ol hyd y diwedd, gan ymddibynu am ei fara beunyddiol ar ei alwedigaeth fydol. Daeth yn fuan yn gymeradwy iawn fel pregethwr, oblegid ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin 1814. Dyma yr ail dro i ordeiniad gymeryd lle yn y Gogledd. Yr oedd Mr. Charles yn bresenol yn yr ordeiniad hwn; hoffai ef Robert Griffith yn fawr ar gyfrif ei fod yn ŵr o ddeall cryf a chwaeth dda. Yr hanes. am dano o'i ordeiniad ymlaen ydyw, iddo lafurio yn yr efengyl am 30 mlynedd ymron yn hollol rad, gan wir ofalu am achos Duw yn y sir yn gystal ag yn ei gartref ei hun. Oherwydd fod. gweinidogion ordeiniedig yn brinion, efe a elwid i weinyddu yr ordinhadau yn yr holl wlad o amgylch am flynyddau lawer.

Fel pregethwr, ymresymu y byddai, fel pe yn siarad a chyfeillion wrth y tân—"Yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill." "Ie, yn siwr, fe ddylai dynion eraill ddiolch nad ydynt fel tithau!" Eto, "Y bobl yn anghrediniol, a Iesu Grist yn rhyfeddu at eu hanghrediniaeth. Yr wyf fi wedi. rhoddi corff i chwi: tybed na roddaf ddillad hefyd? Ydych chwi yn meddwl, wedi i mi roi peth mor fawr a chorph i chwi,