Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/410

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlwydd oed, ac erys ei enw yn uchel fel un a weithiodd ei ddiwrnod yn dda yn ngwinllan ei Arglwydd.

Y Parch. Richard Roberts.—Deng mlynedd ar hugain yn ol, yr oedd ef yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus yn Sir Feirionydd. Bu yn llenwi cylch o ddefnyddioldeb am dymor maith, mewn adeg yr oedd crefyddwyr yn ychydig, a phregethwyr yn brinion yn y sir. Erbyn hyn, y mae cenhedlaeth newydd wedi cyfodi ar ol iddo ef fyned i'r orphwysfa.

Ganwyd ef Tachwedd 14eg, 1786. Ei gartref yn nyddiau ei febyd oedd Hafodfedw, gerllaw Llanelltyd. Yr oedd ei dad yn ŵr crefyddol, ac yn un o ddilynwyr cyntaf y Methodistiaid yn y wlad; er hyny, gwyllt ac afreolus oedd ef yn nyddiau ei ieuenctid. Daeth at grefydd pan o 18 i 20 mlwydd oed. Yr oedd wedi bod yn gwrando ar Edward Foulk yn pregethu yn y Ganllwyd. Teimlai yn bur anesmwyth am ddyddiau, ac i geisio cael tawelwch i'w feddwl, aeth i "noswaith lawen" a gynhelid yn Ty'nygroes. Pan ar ganol dawnsio, gwelai yr ystafell yn suddo dano, a dychrynodd gymaint fel yr aeth allan ar unwaith yn nghanol gwawdiaeth pawb oedd yn bresenol. Yn fuan ar ol hyn, ymunodd â'r eglwys yn Nolgellau, a dechreuodd yn uniongyrchol wneyd yr hyn a allai gyda'r Ysgol Sabbothol. Hanes arall am dano a roddir yn llawysgrif L. W. ydyw, mai yn yr Ysgol Sul yr argyhoeddwyd ef. Ond nid yw hyny mewn un modd yn anghyson â'r hyn a ddywedwyd uchod. "Clywais ef yn dweyd," ebe L. W., "bod arno ddyled i wneyd a allai gyda'r ysgol, oherwydd yn yr Ysgol Sabbothol y cafodd ef weled y perygl o fod yn un o'r cyfryw ag a fydd ar aswy law y Barnwr yn y dydd olaf. Yr wyf yn cofio y tro mewn hen dy yn Llanelltyd a elwid Tanllan. Yr oedd cyn y tro crybwylledig yn un o'r rhai yr oedd arnaf fwyaf o ofn ei weled yn dyfod i'r ysgol ddyddiol; byddai yn ymddangos mor hyf, ac yn gymaint uwchlaw i mi, nes y byddwn yn methu dweyd dim wrtho, ond byddwn yn dirgel weddio drosto. Clywais ef yn dweyd wedi hyny fod arno yntau fy