Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/411

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofn inau." Dywed yr hen ysgolfeistr amryw bethau eraill mewn cysylltiad ag argyhoeddiad R. R. Buont yn cysgu gyda'u gilydd yn Hafodfedw heb ddweyd yr un gair y naill wrth y llall, gan ofn eu gilydd, "ond wedi hyny," ebai, "buom lawer noswaith efo ein gilydd heb allu cysgu fawr oherwydd ein hanwyldeb o'n gilydd, a thrwy ymddiddan am bethau crefyddol." Tystiolaeth yr athraw hefyd ydyw, fod Richard Roberts yn ddiatreg ar ol ei argyhoeddiad, fel Saul o Tarsus,. wedi ymroddi i ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sul yn Llanelltyd, y Ganllwyd, Buarthyré, a Llanfachreth. "A bu o hyny allan o fawr les a chynorthwy i'r Ysgol Sabbothol, ac i minau, a'r Arglwydd yn bendithio ei lafur. Nid oedd genyf neb o gyffelyb feddwl, ac ni bu neb o gymaint o help i mi gyda'r Ysgol Sabbothol yn ardaloedd Dolgellau." Bu dan addysg am tua blwyddyn gyda'r Parch.—Jones,. Lodge, yn agos i'r Bala, yr hwn oedd Reithor Llanfor, ac yn berthynas iddo, gyda'r amcan o'i ddwyn i fyny yn berson. Ond gan nad oedd yn awyddus am fyned ymlaen yn y cyfeiriad hwnw, dychwelodd adref.

Dechreuodd bregethu yn nechreu y flwyddyn 1815, ac yn Rhagfyr yr un flwyddyn, derbyniwyd ef gan y Cyfarfod Misol fel pregethwr; ac ar yr un pryd ag ef, y Parch. Lewis Williams, Richard Jones, Bala, Daniel Evans, Harlech, a John Peters, Trawsfynydd. Y lle cyntaf y bu yn pregethu ynddo. ydoedd, ffermdy Bwlchrhoswen, yn mhlwyf Llanfachreth, gyda L. Williams. Mynodd L. W. bregethu gyntaf, ac er mawr siomiant i'w gyfaill, aeth a'i destyn a'i bregeth, sef y Salm gyntaf; a bu raid iddo yntau syrthio ar un arall. Modd bynag, daeth drwyddi yn well na'r disgwyliad, oblegid fe waeddodd ryw hen ŵr dall oedd yno, yr hwn a dybiai fod y gynulleidfa a'r pregethwyr wedi ymwasgaru:—"Yn wir, mi gurodd Dic ddwy ên yr ysgolfeistr heno." Teithiodd yn achlysurol trwy Dde a Gogledd Cymru, a bu ar amryw ymweliadau â Liverpool a Manchester. Ordeiniwyd ef i gyflawn.