Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/412

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa Machynlleth, Mehefin 9fed, 1853.

Pan ar ei daeth i'r De, pregethodd yn Aberystwyth ar y testyn, "Dos, gwerth yr olew, a thal dy ddyled" (2 Bren. iv. 7); ac ar ei ddychweliad yn ol ymhen rhai wythnosau trwy y dref, daeth ato fasnachwr cyfrifol gan roddi £1 yn nghil ei ddwrn, a a dywedyd wrtho fod ei bregeth wedi dwyn lles iddo ef ei fod wedi derbyn hen ddyled o gryn swm dranoeth wedi y bregeth gan un oedd yn ei gwrando. Clywodd ei gyfeillion ef yn dweyd, ddarfod i lawer geisio ganddo wedi hyny bregethu y bregeth hono—ysgrifenid y cais gyda chalk y tu mewn i'r pulpudau, ond ni fyddai ef yn ufuddhau ar y cyfryw achlysuron. Pregethai yn ymarferol, ac ysgrythyrol, ac ar adegau yn rymus iawn, a bu yn ddiameu yn foddion tröedigaeth i lawer. Y mae gan ei deulu lyfrau yn cynwys dros 400 o'i bregethau wedi eu hysgrifenu yn hynod o fân. Penau y bregeth y bu cymaint o son am dani, sef ar y testyn "gwerth yr olew, a thal dy ddyled," ydynt—I Amryw ffyrdd y mae dynion yn myned i sefyllfa nas gallant wneuthur cyfiawnder. II Bod yr Arglwydd yn dyrchafu rhai drachefn i sefyllfa y gallant wneuthur cyfiawnder. III Dyledstrydd orchymynedig.—"tal dy ddyled." Gwnaeth lawer o waith gyda'r plant yn niwygiad 1859; ac yr oedd yn neillduol o zelog gyda Dirwest, gweithiai yn egniol dros lwyrymwrthodiad pan oedd egwyddorion cymedroldeb a llwyrymwrthodiad yn cael sylw arbenig yn y wlad. A chymeryd ei oes oll yn oll, yr oedd yn un gweithgar a defnyddiol.

Yn y Dyddiadur am 1862, ceir yr hyn a ganlyn ymysg y dau ar farwolaethau pregethwyr, "Mai 17, 1861, y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, yn 76 mlwydd oed, wedi treulio 46 mlynedd yn ngwaith y weinidogaeth, yn ddiargyhoedd yn ei holl fuchedd, ac yn ddiofid i'w frodyr. Bu yn teithio yn achlysurol trwy holl Gymru, a chofir yn hir am liaws o'i destynau a'i bregethau, trwy y rhai y gwnaed llawer o les mewn amrywiol fanau. Yr oedd yn gyfarwydd iawn yn