Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/427

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Evan James yn arfer myned yn fynych, dros y plwyf, i ryw barth o'r Deheudir, a thelid iddo am ei amser, ynghyd â'i gostau. Caniateid iddo ryw gyfran at ddiod ar hyd y ffordd; ond y gyfran hon a gedwid yn ofalus ganddo, gan yfed dwfr o'r ffynon, yn lle eu gwario; felly cadwai y wraig yn ddiddig, a darparai ar gyfer â rhyw gostau gwir angenrheidiol gydag achos Duw." Mae yr hanes sydd wedi ei gadw am y gŵr da hwn yn terfynu ar hyn. Oddiwrth yr ychydig sydd wedi ei gofnodi gwelir ei fod yn seren ddisglaer yn llewyrchu mewn amser tywyll. Ond byr amser y bu y pregethu yn ei dŷ ef.

Y lle nesaf y rhoddwyd lloches i achos y Methodistiaid oedd yn nhŷ John Pugh, y clochydd. Yr oedd y John Pugh hwn yn dad-yn-nghyfraith i'r pregethwr tra adnabyddus, Edward Foulk, Dolgellau. Hynod yn yr oes hon ydyw clywed mai tŷ y clochydd oedd yr unig le mewn ardal y pregethid gan yr Ymneillduwyr; hynod hefyd ydyw fod clochydd yn dad-yn- nghyfraith i bregethwr Methodistaidd; a hynotach fyth ydyw fod Cyfarfod Misol wedi ei gynal yn nhŷ y clochydd yn Llanfachreth. Ond gwelir oddiwrth ysgrifau L. W., mai Edward Foulk a'i wraig oedd wedi cael y tŷ hwn i'r Methodistiaid; yr oedd ef yn byw gyda'i dad-yn-nghyfraith ar y pryd, cyn iddo ddechreu pregethu. Clywodd yr offeiriad fod y clochydd yn rhoddi ei dy i'r Methodistiaid i bregethu ynddo, yr hyn nis. gallai ar un cyfrif ei oddef. A'r canlyniad a fu ei droi oi swydd. Rhoddwyd hysbysiadau fod eisiau clochydd newydd. Arweiniodd hyn drachefn i ganlyniadau lled bwysig, sef i wanychu yr Eglwys yn y Llan, ac i gryfhau achos yr Ymneillduwyr. Yr oedd gan yr offeiriad ŵr neillduol mewn golwg i fod yn glochydd; cyhoeddwyd vestry i wneyd y dewisiad; ond syrthiodd dewisiad y plwyfolion ar ŵr arall. Wrth hyn ffromodd yr offeiriad yn aruthr, a haerai mai ganddo ef yr oedd yr hawl i ddewis clochydd. Aethpwyd i ddadleu ar y mater, digiodd y plwyfolion, a dywedent nad aent i'r Llan i wrando mwy. Haerai gŵr o ddylanwad, yr hwn