Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/429

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ellis Jones, gŵr oedd ar y pryd mewn proffes yn aelod o'r Cyfundeb; ond yn lle ei drosglwyddo i'r Methodistiaid, gosododd ef iddynt dan ardreth flynyddol o 3p.

Mae yr hanes o hyn hyd amser agoriad y cape!, yn 1804, i'w weled yn ysgrifau L. W., copi o'r hwn a anfonodd i awdwr Methodistiaeth Cymru, oddeutu deugain mlynedd i eleni. Gan ei fod mor ddyddorol, rhoddir ef i lawr fel y mae yn argraffedig yno:—

"Ymddengys amgylchiadau lled hynod yn mhryniad y tŷ bychan hwn, a'r ardd a berthynai iddo—y fath, feallai, na ddylid eu gadael allan yn ddisylw. Yr oedd y gwr a'i prynodd dros y Cwrdd Misol, ar y pryd y gwnaeth efe hyny, yn aelod yn y Cyfundeb, ac yn perchen meddianau bydol. Eto, nid hir y bu ar ol hyn heb ddangos mai nid Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll,' ydoedd. Yn lle rhoddi y pryniad i fyny i'r Cyfarfod Misol, yn ol ei addewid, gomeddodd ei ollwng o'i feddiant, ond gosododd ef i'r Methodistiaid dan ardreth o 3p. y flwyddyn, sef llog y 60p. a gostiodd y tŷ iddo. Wedi i rai blynyddoedd fyned heibio, ac i'r prynwr golli ei broffes, a'i feddianau bydol, daeth gorfod arno werthu y tŷ hwn hefyd. Pan glywodd y gŵr boneddig fod y lle eto ar werth, penderfynodd ei brynu; gorchymynodd i ŵr fyned drosto at y gwerthwr ar ddiwrnod penodol, i'r diben i'w brynu. Ond y diwrnod cyn i hyn gymeryd lle, daeth y gyfrinach i glustiau cyfaill i'r achos crefyddol. Galwodd ato dri o gyfeillion eraill, gan eu hysbysu nad oedd dim amser i'w golli, os mynent gael y tŷ crybwylledig i'w meddiant. Bwriodd hyn y brodyr i drallod a phenbleth blin:—nis gwyddent pa beth a wnaent. Gwyddent yn dda os collent y lle hwn, nad oedd nemawr obaith y ceid un man arall yn y plwyf, ac y llethid yr achos crefyddol mewn canlyniad.

"Wedi gweddïo am gyfarwyddyd, ac ymgynghori â'u gilydd, penderfynasant ar fod dau o honynt, sef Mr. Lewis Evans, a Mr. John Dafydd, Dolyclochydd, i fyned yn foreu