Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/430

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dranoeth at y gwerthwr, a phrynu y lle, os gallent. Treuliwyd y noson hono mewn pryder digwsg, ac yn foreu dranoeth, aeth Mr. Lewis Evans at y gŵr (yr hwn a gymerai arno fod yn gryn gyfaill iddo), ac a'i hysbysodd fod ei dyddyn ef wedi ei werthu, ac y byddai raid iddo ymadael â'r gymydogaeth, yr hyn oedd yn beth blin iawn ganddo, am nad oedd un lle arall yn ymgynyg iddo; ac mai da fuasai ganddo gael rhyw le bychan i fyw ynddo yn Llanfachreth, yn hytrach nag ymadael o'r gymydogaeth. Nid wyf finau yn dewis i chwi ymadael,' ebe y gwr, ac os gwna y tŷ bach a'r ardd sydd genyf yn Llanfachreth ryw wasanaeth i chwi i aros ei well, mi a'i gwerthaf i chwi.' Am ba faint?' ebe Lewis Evans. Enwyd swm go fawr, llawer mwy na'i werth; ond wedi hir siarad, cytunwyd am dano, rhoddwyd ernes arno, a chafodd Lewis Evans y gweithredoedd gydag ef i'w gartref. Bellach ni chafwyd un rhwystr i drosglwyddo y lle i ymddiriedolwyr at achos y Cyfundeb.

"Gwnaeth y boneddwr bob ymdrech a allai i gael y tŷ oddiar Lewis Evans, ac nid oes amheuaeth na allasai elwa llawer ar y pryniad a wnaeth; ond hyn ni fynasai ei wneyd ar un cyfrif, gan y golygai hyny yn dwyll o'r fath adgasaf. Y mae y ffaith yn adnabyddus ddigon, pa gyfrif bynag a roddir am dani, fod y gŵr a'i prynodd gyntaf, er elwa ar y lle, wedi myned yn dlawd, a'r gŵr a'i prynodd ddiweddaf, gan wrthod gwobr anghyfiawnder, wedi aros mewn cyfrif a dylanwad, o ran meddianau bydol, a phroffes grefyddol, hyd heddyw.

"Pan glywodd y gŵr boneddig fod y Methodistiaid wedi sicrhau eu meddiant yn y darn tir, efe a deimlodd i'r byw, ac a ffromodd yn aruthr, gan fygwth, 'Os codant gapel yn y lle, mi a fyddaf yn waeth wrthynt na chi cynddeiriog.'

Yr oedd y boneddwr, debygid, wedi gosod ei galon ar gael y plwyf yr oedd ef yn byw ynddo yn gwbl rydd oddiwrth Ymneillduaeth, ac na fyddai yr un capel gan blaid yn y byd o'i fewn. Gofynodd lawer gwaith i Mr. Lewis Williams, pregethwr yn y Cyf-