Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ychydig iawn oedd wedi ei wneuthur cyn y cyfnod crybwylledig i foesoli a chrefyddoli y rhan yma o'r wlad gan neb arall, mwy na'r Methodistiaid. Bu achos gan y Crynwyr mewn rhai manau yn foreuach na hyn. "Yr oedd nifer o Grynwyr, ac amryw Annibynwyr," meddai un awdwr, "oddeutu Dolgellau a godreu Cader Idris, a yrwyd i, ac a adawyd ar lan y môr dros y nos, yn rhywle o Abermaw i Aberdyfi." Rhoddir hanes dioddefiadau y bobl hyn gan Vavasor Powell, yr hwn oedd ei hun yn dioddef yn gyffelyb, yn y geiriau canlynol:—"Eraill yn Swydd Feirionydd, fel pe buasent anifeiliaid, a yrwyd i frad-byllau, neu i ffaldau, lle y cedwid hwy am oriau lawer, tra fyddai eu gelynion yn yfed mewn tafarndy, ac yn eu gorfodi i dalu am y gwirod, er nad oeddynt wedi eu profi eu hunain. Yna, dygid hwy i lan y môr, a gadewid hwynt yno dros y nos, mewn perygl i gael eu llyncu i fyny ganddo. Traddodwyd eraill i garchar, lle y cawsant eu cadw am fisoedd; cymerwyd eu hanifeiliaid, a'u defaid, yn rhifo dros chwe' chant, oddiwrthynt, ac fe'u gwerthwyd. Gorfodwyd eraill pan elwid hwynt i'r Sesiwn Chwarterol, i gerdded mewn cadwynau, yr hyn ni ddylesid yn gyfreithiol osod arnynt, oddigerth eu bod wedi cynyg dianc, neu dori allan o'r carchar. Eraill ag oeddynt wedi ymgynull ynghyd yn dawel, yn ol eu dull arferol am flynyddau lawer i addoli Duw, ac i adeiladu y naill a'r llall, a fwriwyd i garcharau heb unrhyw arholiad, yn groes i gyfreithiau y genedl hon, a chenhedloedd eraill" (Powell's Bird in the Cage). Cymerodd hyn le rhwng 1660 a 1662. Darfyddodd y Crynwyr o'r wlad cyn hir, ac nid oes dim o ôl eu harosiad, oddieithr yn Llwyngwril, ac mewn ardal o'r naill du i Ddolgellau.

Blwyddyn y mae digwyddiadau anfarwol yn gysylltiedig â hi ydoedd y flwyddyn 1662. Dyma y flwyddyn y pasiwyd Deddf Unffurfiaeth, ac y gadawodd dwy fil o weinidogion eu bywiolaethau er mwyn cydwybod. Ymhlith y llu anrhydeddus, yr oedd cant a chwech o weinidogion Cymreig. Nid oedd ond