un gweinidog Anghydffurfiol yn Sir Feirionydd yr adeg yma, yr hwn, er nad oedd ei hun wedi cymeryd urddau, a ddewisoedd ymneillduo gyda'r ddwy fil o wroniaid. A gellir olrhain Ymneillduaeth y sir i'r flwyddyn hon. Yn agos i'r Rheilffordd, pan yr elir o Dowyn i Lwyngwril, yn union wedi croesi afon Dysyni, oddeutu haner y ffordd rhwng palasdy Cefncamberth â chapel y Bwlch, y mae ffermdy clyd yr olwg arno yn nghesail y bryn, yn wynebu tua'r môr, ac yn cael ei gysgodi gan wyntoedd oer y gogledd. Dyna Bronclydwr, lle genedigol Hugh Owen, yr hwn oedd yn nai, fab cyfyrder, i Dr. Owen, tywysog y duwinyddion, a'r hwn hefyd a elwir hyd heddyw gan yr Anghydffurfwyr yn "Apostol y Gogledd." Teilynga y lle hwn sylw am fod seren oleu wedi bod yn llewyrchu ynddo am ddeugain mlynedd, a hyny ddeugain mlynedd cyn i Seren y Diwygiad Methodistiaidd yn Nghymru gyfodi. Ni bydd hanes crefydd yn Sir Feirionydd yn gyflawn heb gynwys hanes Hugh Owen, Bronclydwr.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1637, ac felly yr oedd yn 25ain oed amser y chwyldroad mawr 1662. Yr oedd y pryd hwn ar orphen ei addysg yn Rhydychain, a chan nas gallai gydffurfio â'r deddfau caeth oedd Charles II. yn eu gosod ar bawb a gymerent urddau eglwysig, ymwrthododd â hwy cyn eu cymeryd, dychwelodd adref i'w sir enedigol, ac ymsefydlodd ar ei etifeddiaeth yn Bronclydwr. Sefydlodd eglwys yn ei dy ei hun, gan wahodd deiliaid plwyfydd Celynin, Llanegryn, a Towyn i ddyfod yn wrandawyr. Yr oedd ei gariad at ei gymydogion a'i gydwladwyr mor gryf fel y darfu iddo dreulio ac ymdreulio i'w rhybuddio, eu cynghori, a'u cyfarwyddo yn mhethau teyrnas nefoedd. Teithiai o amgylch, bellder o ffordd oddiwrth ei gartref, i bregethu efengyl y deyrnas. Un lle y byddai yn pregethu ynddo oedd Pantphylip, uwchlaw Arthog; lle arall oedd Dolgellau; lle arall oedd y Bala. Y mae tŷ yn Nolgellau, yr hwn a adnabyddir eto wrth yr enw "Tŷ Cyfarfod," lle y pregethai Hugh Owen ynddo. Yr oedd