Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/433

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

defnyddiau i'w cael, gan yr arferai y boneddwr ei holl ddylanwad a'i allu i rwystro codi capel yn y plwyf. Yn y benbleth flin hon, aeth rhai o'r brodyr i'r Bala, i adrodd eu helynt wrth Mr. Charles, ac i ofyn ei gyfarwyddyd. Bwriedid weithiau adeiladu y capel o goed i gyd; ac yn ystod yr ymddiddan â Mr. Charles, yr oedd y bwriad hwn ymron wedi esgor ar benderfyniad hollol, sef i wneyd yr adeilad o goed. Ond yr oedd Mrs. Charles yn clywed yr ymddiddan, a gofynai, "A oedd gwir eisiau capel yn Llanfachreth?" Atebwyd, "nad oedd un amheuaeth am yr angen am dano." "Wel," ebe hithau, "Os yw yr Arglwydd yn ewyllysio ei gael yno, y mae yno gerig i'w adeiladu." Ac er nad oedd dim tebygolrwydd eto pa le y ceid hwy, anogai Mrs. Charles iddynt dynu yr hen dŷ i lawr, a dechreu ar yr adeilad gyda'r defnyddiau a fyddent yn y lle.

Dychwelodd y brodyr adref gyda'r penderfyniad o wneyd fel yr anogwyd hwy; a dechreuasant chwalu yr hen adeilad, a chloddio sylfaen i'r adeilad newydd. Ac wrth dori y sylfaen, torodd gwawr gobaith arnynt;—deallasant yn fuan fod yno ddigon, a mwy na digon o gerig yn y tir, nid yn unig i adeiladu capel, ond tŷ hefyd i berthyn iddo. Trwy yr amgylchiad hwn gwaredwyd y trueiniaid o'u penbleth, a siomwyd eu gwrthwynebwyr yn ddirfawr; ac nid hyny yn unig, ond effeithiodd yn rhyfeddol ar yr ardal. Edrychai y trigolion ar yr amgylchiad fel arwydd amlwg o amddiffyniad yr Arglwydd ar ei achos ei hun. Bellach nid oedd rhwystr i ddygiad yr adeilad ymlaen, yr hyn a wnaed dan arolygiad y brawd ffyddlon Mr. Edward Richard, o Ddolgellau."—Methodistiaeth Cymru I 606. Rhyfedd yr helbulon yr aeth trigolion yr ardal drwyddynt dros ysbaid o 50 mlynedd! A rhyfedd, hefyd, fel yr oedd pob dyfais o eiddo dynion a diafol yn methu llethu achos crefydd yn y lle! I'r fath raddau y rhoddodd y boneddwr ei fygythiad mewn grym, ac y cariodd ei awdurdod allan, fel y rhoes orchymyn i droi hen ŵr a hen wraig a dderbynient elusen plwyfol o'u tŷ, am y dywedid y cynhelid cyfarfodydd crefyddol ynddo,