Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/438

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iad i fyny, a daethpwyd ar unwaith yn rhydd o'r ddyled. Bendithiwyd yr amaethwr crybwylledig, hefyd, yr hwn oedd y pryd hwnw yn hen mewn dyddiau, âg ysbryd i gyfranu yn helaeth at achosion eraill. Yn 1868, drachefn, adnewyddwyd y capel yn drwyadl o'r tu fewn, i'r ffurf y mae ynddo yn bresenol, ar y draul o £160.

Aeth yr achos yma, fel y gwelwyd, trwy brofiad tanllyd yn ei ddechreuad, a chyfarfyddodd ag ystormydd yn awr a phryd arall o hyny hyd yn bresenol. Yr oedd Carmel, a rhan o Hermon, unwaith yn perthyn i'r eglwys hon. Er hyny, ni bu erioed yn lliosog. Y nifer yn 1848, oedd 52, a'r nifer fwyaf y digwyddodd i ni weled yn perthyn iddi ydoedd 65, a hyny flwyddyn neu ddwy ar ol y diwygiad diweddaf. Erys rhif y cymunwyr rywbeth yn debyg i'r hyn oedd haner can mlynedd yn ol, er fod poblogaeth yr ardal lawer yn llai, ac er fod y gwrthwynebiadau i'r Methodistiaid yn parhau yn gryfion. Bu yn perthyn i'r eglwys hon ddynion gwrol, pobl fel y dywedir ag asgwrn cefn ganddynt, rhai yn glynu wrth egwyddorion trwy y tew a'r teneu. Ond diameu mai yr hyn fu yn achos iddi ddal ei thir cystal yn yr amser aeth heibio oedd, cysylltiad Lewis William â hi am faith flynyddau. Ymsefydlodd ef yn arhosol yn yr ardal yn 1824, ymhen yr ugain mlynedd union wedi adeiladu y capel cyntaf yn y lle. "Wedi i Ragluniaeth fy nhywys," ebai, "i lawer o fanau gyda'r ysgol ddyddiol a Sabbothol, hi a'm tywysodd trwy anfoniad Mr. Charles i Lanfachreth, o gylch y flwyddyn 1800. Nis gallaf ddweyd gynifer o weithiau y bum yn Llanfachreth, o anfoniad Mr. Charles, weithiau am fis, pryd arall am ddau, a rhai gweithiau am chwarter blwyddyn. Yr achos o fyrdra yr amser oedd, y mawr alw fyddai am yr ysgol ddyddiol i fanau eraill, er mwyn sefydlu a chynorthwyo yr Ysgol Sabbothol. Ond wedi marw Mr. Charles, a thra bum yn cadw ysgol, yr oeddwn yn myned ar alwad yr ardaloedd, ac iddynt hwy roi cyflog i mi, neu ddwyn fy nhraul, ac ychydig fyddai hyny mewn llawer o fanau y bum