Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/441

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ydym yn ei gael yn sefydlu cyfarfod athrawon ac athrawesau arbenig, yr hwn a gynhelid bob mis, ac weithiau yn amlach. Ymhlith penderfyniadau y cyfarfodydd hyn ceir,—"L. W. i fod. yn ysgrifenydd, a John Dafydd yn gymedrolwr." "Fod yr ysgrifenydd i sefyll yn lle y cymedrolwr, i basio y penderfyniadau trwy godiad llaw yr athrawon a'r athrawesau." "Fod cyfarfod athrawon i fod bob bore Sabbath ag y byddo ysgol y bore, am 8 o'r gloch." "Derbyniwyd y genadwri o Gyfarfod Daufisol Bontddu, sef fod cyfarfod gweddi i'w gynal o fewn holl ysgolion y cylch am 7 o'r gloch (boreu) Sabbath Mehefin 12fed, i weddio am i'r Ysbryd Glan arddel y moddion er dychwelyd eneidiau." "Fod egwyddori yn gyhoeddus i fod mewn un odfa yn y ddau fis o bellaf, ar benod o'r Hyfforddwr neu fater." "Fod enwau yr athrawon a'r athrawesau i gael eu galw yn gyhoeddus, er cael gwybod pwy fydd yn bresenol ac yn absenol, a gofyner am yr achos o'u habsenoldeb." Mewn cyfarfod blaenoriaid yr un flwyddyn, ymlith eraill, ceir y ddau benderfyniad canlynol," (1) Fod Robert Griffith i edrych am borfa i'r ceffylau, ac i'r society dalu; (2) i ymofyn a phob aelod nad oedd yn cyfranogi o'r ordinhad y tro diweddaf, cyn y byddis yn cyfranogi y tro nesaf, i gael gwybod beth oedd yr achos, ac i geisio ei symud ymaith."

Rhoddir yr engraifft ganlynol i ddangos brawdgarwch Cristionogol yr Ymneilduwyr tuag at yr Eglwys Sefydledig yn Llanfachreth yn y blynyddau aethant heibio, er yr holl driniaethau a dderbyniasent hwy o dro i dro oddiwrth ddeiliaid yr Eglwys hono. Hyd amser marwolaeth Syr R. Vaughan, oddeutu 1843, un bregeth fyddai yn y llan, am 11 y bore un Sul, ac am 2 y Sul arall. Elai y Methodistiaid i'r gwasanaeth i'r eglwys am un a'r ddeg ar ol eu moddion hwy eu hunain; a'r Sul y byddai y bregeth am 2, ni byddai moddion yn nghapel Llanfachreth na Charmel, er mwyn i bawb fyned i'r eglwys. Oddeutu y flwyddyn 1838 y dechreuwyd achos gan yr Annibynwyr yn Llanfachreth. Yn Hanes Eglwysi Annibynol