Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/457

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Un bregeth a geid ar y Sabbath, sef am 10, ysgol am 2, a chyfarfod gweddi am 6. Yn y cyfarfod gweddi tri o frodyr a elwid at y gwaith. Byddai y cyntaf a'r olaf yn darllen penod, ac fel rheol, yn canu cyn ac wedi darllen, a byddai y weddi yn para yn fynych am ugain mynyd. Gofelid am i'r ddau hyn fod yn ddarllenwyr gweddol, ond am y canol, ni ofelid pa un a fedrai ddarllen ai peidio, ac ni fyddai neb yn teimlo angen am lyfr hymnau. Byddai gan y brodyr mwyaf anllythrenog ddau neu dri o benillion ar eu côf, a byddem ninau, y bechgyn direidus, yn dechreu dyfalu pa benill a geid. Heblaw y tri blaenor, yr oedd yno amryw o frodyr yn meddu graddau helaeth o gymwysderau i gymeryd rhan yn y gwaith cyhoeddus, ac nid wyf yn cofio gweled neb yn anufuddhau pan y gelwid arno. Enw y dechreuwr canu oedd Ellis William, hen lanc lled bigog ac anhawdd ei drin yn fynych, ond yr oedd yn hynod o fedrus fel cerddor, ac yn feddianol ar y llais mwyaf soniarus. Nid yn fynych y gwelid Lewis Morris (y pregethwr) yn y seiat, gan ei fod yn byw mewn lle pur anghysbell, ond pan y deuai cymerai yr arweiniad i'w law ei hun yn hollol, ac os byddai achos o ddisgyblaeth ger bron, gwnai fyr waith, a thra effeithiol. Unwaith yr oedd gŵr a gwraig yn arfer ffraeo a'u gilydd, a daeth L. Morris yno i drin eu hachos, ac ar ol dweyd yn llym ar y pechod o gweryla, dywedai:— Cerdd allan Wmffra, cerdd dithau ar ei ol o, Nelly,' heb ofyn arwydd o gwbl gan yr eglwys.

Arferai y pregethwyr, gan mwyaf, letya yn Erwgoed, ac weithiau ceid pregeth yno nos Sadwrn. Y pregethwr mwyaf poblogaidd genym ni y bechgyn oedd, John Williams, Llecheiddior, ac wedi iddo ddyfod i drigianu i Lanfachreth, deuai i Sion yn lled fynych, a chan ein bod wedi deall ei fod yn bur hoff o gocos, byddem yn gofalu am fyned i'r traeth i hel cocos erbyn swper nos Sadwrn, a'u hanfon i John Williams, i Erwgoed. Ac fel cydnabyddiaeth am hyn o wasanaeth, caem ninau farchogaeth ei geffyl glas, 'Simon,' dranoeth, bob yn ail ar ein ffordd i Lwyngwril, at yr odfa 2. Yr oedd yn arferiad genym fyned