Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/459

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cymeryd lle, a llawer wedi gadael capel y Methodistiaid, ac meddai yr hen batriarch ar ganol ei bregeth, "By be sy' ar y bobol! Pe bae nhw yn myn'd trwy gymaint o ddŵr ag sydd oddiyma i Bwllheli, fydda' nhw damad cymwysach wed'yn i deyrnas nefoedd !"

Yn yr ardal hon y treuliodd Lewis Morris, yr hen bregethwr enwog, y rhan helaethaf o'i oes, yr hwn a fu farw Mawrth 11eg, 1855, yn 95 mlwydd oed. Rhoddwyd ei hanes mewn penod flaenorol. Nid ymddengys iddo adael llawer o'i ôl ar yr ardal, oblegid teithio y wlad i bregethu y byddai ef, a threulio llawer o'i amser oddicartref, fel bron yr oll o'r hen bregethwyr. Nid oedd yn bosibl felly iddynt wneuthur llawer o ddaioni gartref, yr hyn ymhen blynyddoedd a droes yn golled i'r Methodistiaid mewn llawer man. Bu Rowland Davies (Rolant Dafydd), y pregethwr, yma yn hir yn gofalu am yr achos, ac yn byw, os nad ydym yn camgymeryd, yn nhŷ y capel. Gwelir oddiwrth lyfrau y Cyfarfod Misol ddarfod i'w weddw dderbyn cynorthwy arianol ar ol ei farwolaeth. Daeth Evan Roberts yma o'r Abermaw rhwng 1835 ac 1840. Symudodd i Sir Drefaldwyn yn nechreu 1854. Bu un pregethwr ieuanc a berthynai i'r eglwys hon farw 24 mlynedd yn ol.

Evan Jones— Ei dad oedd Ellis Jones, gŵr defnyddiol gyda'r achos yma, ac a fu farw ychydig o flaen ei fab; ei fam, yr hon sydd yn ferch i'r hen ddiacon, Hugh Barrow, Llanelltyd, a erys hyd y dydd hwn. Dygwyd Evan Jones i fyny yn pupil teacher yn Nolgellau. Bu yn Ngholeg Athrawol Bangor, ac am ychydig yn cadw ysgol yn Ponterwyd, Sir Aberteifi, ac yn Porthmadog. Dechreuodd bregethu, ac Awst, 1864, aeth i Athrofa y Bala, ond ni bu ei arosiad yno ond mis. Ymaflodd afiechyd yn ei gyfansoddiad, dychwelodd o'r Athrofa, a bu farw yn fuan. Gŵr ieuanc da ei air ymhob cylch y bu yn troi ynddo.

Robert Richard, Fegla Fawr.—Efe oedd blaenor cyntaf yr eglwys. Ni chafwyd hanes am ei neillduad i'r swydd, nac am