Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/461

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gael y lan—John Lewis wedi cael tywydd na chlybuwyd am ei fath yn yr oes hon yn cwrdd â neb."

John Jones, Cefncoed, a ddewiswyd yn flaenor Mawrth 1878, ac a fu farw Ebrill 20, 1880, wedi bod yn y swydd am ddwy flynedd a mis. Lewis Pugh, Ynysgyffylog, a fu yn flaenor yma am dymor, lawer o amser yn ol, ac a symudodd i'r Bwlch; Richard Jones hefyd, yr hwn a symudodd i Gorris, a fu yn y swydd yma.

Gweddus ydyw crybwyll am garedigrwydd teulu Ynysfechan i'r achos. Y blynyddoedd diweddaf y maent hwy wedi bod yn gefn mawr iddo ymhob ystyr, ac yno y lletya y pregethwyr oll er's amser maith. Y mae Mr. Jones, yr hwn sydd yn awr yn hynafgwr, ac yn analluog i fyned o'i dy, wedi ei neillduo yn flaenor er y flwyddyn 1871.

Y blaenoriaid eraill ydynt Mri. Evan Jones, a ddewiswyd yn 1870; Richard Jones, Arthog Terrace, yn 1878; Lewis Evans yn 1883.

Mae Sion wedi myned yn daith gyda Rehoboth er y flwyddyn 1867, ac o hyny allan mae yma ddwy bregeth y Sabbath. Yn y flwyddyn 1863 ymgymerodd y Parch. Owen Roberts, a bod yn weinidog ar eglwysi Sion, Llwyngwril, a'r Bwlch. Telerau ei gytundeb â'r eglwysi oeddynt; Ei gyflog—Sion 15p, Llwyngwril £5, Bwlch £3, y Cyfarfod Misol £10—£33. Ei waith —pregethu yn nhaith Sion a Llwyngwril 12 Sabbath yn y flwyddyn, ac unwaith yn y mis yn y tri lle ar noson waith. Cynal society yn y tri lle unwaith bob wythnos, oddieithr yr wythnos y byddo yn pregethu ynddynt, a chaniateid iddo beidio cynal society ond mewn dau le wythnos y Cyfarfod Misol. Parhaodd cysylltiad O. Roberts â Sion hyd 1872, ac â'r ddau le arall ynghyd a Saron hyd ei farwolaeth. Y flwyddyn hon (1888) mae eglwysi Sion a Rehoboth wedi rhoddi galwad unfrydol i Mr. John Wilson Roberts.

LLANELLTYD.

Yn Tanllan y cyfarfyddid i addoli yma y blynyddoedd cyntaf