Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/465

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda Mr. Jones, offeiriad oedd yn byw yn Borthwnog, yr hwn oedd yn berchen ar dyddyn o'r enw Maestryfar. Yn Tynycoed y cynhelid yr ysgol hyd nes yr adeiladwyd yr ysgoldy. Evan ac Ann Pugh oedd yn byw yno pan ddechreuwyd yr ysgol yn y lle, a'r wraig yn unig oedd yn gyflawn aelod ar y pryd. Dechreuwyd cadw cyfarfod eglwysig yma tuag 1860. Y tri a wnaent waith blaenoriaid ac a ofalent am yr achos o'r dechreu oeddynt Abram Pugh, Griffith Dafydd, a Richard Owen. A'r tŷ sydd wedi bod yn nodded i'r achos yn y blynyddoedd diweddar ydyw Maestryfar. Adnewyddwyd ychydig ar yr ysgoldy amryw weithiau. Ond yn 1886 gwnaed cyfnewidiad trwyadl ynddo o'r tu fewn, a rhoddwyd to newydd arno, ac aeth yr holl draul yn £47 13s. Oc. Mae yma un bregeth y Sabbath y rhan fynychaf, ac ysgol, a chyfarfod gweddi; cyfarfod eglwysig bob wythnos, a chyfarfod gweddi undebol rhwng y Methodistiaid a'r Annibynwyr bob pythefnos, er's 10 mlynedd.

Y mae yn perthyn i Lanelltyd restr lled faith wedi bod yn gwasanaethu swydd diacon. Y cyntaf oedd,—

Richard Morris. Ystyrid ef yn hynod am ei dduwioldeb, ac yr oedd yn ddychryn i annuwiolion yr ardal. Adroddir am dano ef a Hugh Barrow yn dychwelyd adref o Ddolgellau ar nos Sabbath, wedi cael hwyl nefolaidd yn y moddion yno, ac iddynt ill dau dreulio y nos i weddio o dan goeden wedi cyraedd i ymyl eu cartref. Nid anghofiodd yr un o'r ddau y nos hono tra buont byw. Bu R. Morris farw yn 1824, yn 40 mlwydd oed.

Thomas Jones. Efe oedd a'r llaw benaf yn symud yr achos o'r hen gapel i'r capel presenol. Symudodd i Ddolgellau i fyw tua 1844.

Edward Thomas. Yr oedd yn flaenor pan y symudodd yma o Lanfachreth. Trwy ei dduwioldeb a'i ffyddlondeb cyr- haeddodd ddylanwad mawr. Ynddo ef mewn modd neillduol y gwiriwyd y gair, "Ni frysia yr hwn a gredo." Ar ol gwas- anaethu swydd diacon yn dda bu farw yn orfoleddus.