Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/475

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sefydlu y Parch. Owen Roberts, y pryd hwnw o Bethesda, Ffestiniog, yn weinidog yn Rhiwspardyn, ac wele yn canlyn gopi o'r cytundeb a wnaed ar y pryd ag Owen Roberts:—

Cytundeb a wnaed â'r Parch. Owen Roberts, Rhiwspardyn, 1857.

Cytunodd y Cyfarfod Misol â'r Parch. Owen Roberts i fod yn weinidog a bugail ar eglwysi Rhiwspardyn, Silo, a Carmel, ac hefyd Ystradgwyn, a'r Cwrt. Y mae bregethu yn nhaith Rhiwspardyn am 9 Sabbath yn y flwyddyn, a 3 Sabbath yn nhaith Ystradgwyn a'r Cwrt; ac i fod yn nghyfarfodydd eglwysig Spardyn, a Silo, a Carmel bob wythnos, ac mor aml ag y gall yn nghyfarfod eglwysig Ystradgwyn, ac hefyd yn y Cwrt pan y gallo. Bod iddo fod yn olygwr ar gyfrifon a chasgliadau eglwysig y pedwar lle uchod, ac ymhob modd i fod yn weinidog a bugail, i'w dysgu a'u harwain i fyw yn dduwiol yn ol Gair Duw. Ei gyflog am y gwasanaeth uchod sydd i fod yn £30 yn y flwyddyn, yn nghyda'r tŷ sydd wrth Gapel Rhiwspardyn i fyw ynddo, yr hwn a fernir sydd yn werth £3 10s. 0c. yn y flwyddyn. Y mae efe i ofalu hefyd am lanhau capel Rhiwspardyn, a chadw y tŷ ac oddeutu y tŷ a'r capel yn weddus ac mewn trefn. A thuag at wneyd i fyny y cyflog uchod, y mae cyfeillion Rhiwspardyn i dalu 3p. yn y flwyddyn; Silo i dalu 3p. Carmel i dalu 3p; ac Ystradgwyn a'r Cwrt i dalu 3p, a bod yr elw a geir oddiwrth werthiant y Drysorfa, yn y pen yma o'r Sir, i gael ei gymhwyso at yr achos hwn, a bod yr hyn a fydd yn eisiau wedi hyny i wneyd y swm yn 30p. i gael ei gymeryd o'r casgliad cenhadol bob blwyddyn.

Daeth Owen Roberts a'i deulu i Rhiwspardyn ar y 23ain o fis Chwefror, 1858. Y mae cyflog O. R. i gael ei dalu yn chwarterol."

Dyma ddechreuad cyntaf y Genhadaeth Sirol. Dylid coffhau, hefyd, fod yr eglwysi uchod wedi ymuno i roddi galwad i Owen Roberts. Trwy garedigrwydd Mr. Williams, Ivy House,