Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/476

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chyfeillion eraill o Ddolgellau, helaethwyd tŷ capel Rhiwspardyn, a gwnaed ef yn gysurus i weinidog fyw ynddo. Felly gwawriodd ar yr achos yma, yr oedd y praidd yn hoffi y gweinidog, a'r gweinidog yn hoffi y praidd, siriolodd y bobl, a bu adnewyddiad ar grefydd yn yr ardaloedd. Ond cyn hir, daeth cwmwl dros y gweinidog, fel y crybwyllwyd yn fyr yn ei hanes, mewn cysylltiad â Llwyngwril. Yn y cyfwng y buont yn awr heb weinidog, torodd y Diwygiad allan, a chwanegwyd llawer at nifer yr eglwys. Teimlent eu hangen yn fawr drachefn am gynorthwy i ofalu am y dychweledigion. Fel un step tuag at wneyd eu hangen i fyny, aethpwyd i ddewis blaenoriaid, neu yn hytrach, flaenor. A'r tro hwn, hyd y gwyddom, oedd y tro cyntaf yn hanes yr eglwys am yn agos i 40 mlynedd o amser, yr ychwanegwyd nifer y blaenoriaid o un i ddau. Mr. Hugh Pugh, Tyddynmawr, a ddewiswyd yn ddiacon yn 1860, ac efe sydd wedi bod yn dal y swydd o ysgrifenydd yr eglwys o hyny hyd y pryd hwn. Yn haf y flwyddyn 1862, daeth y Parch. Evan Roberts, yn awr o'r Dyffryn, yma i gymeryd gofal yr eglwys. Ond wedi gwasanaeth llwyddianus am oddeutu blwyddyn, ymadawodd yntau, tua chanol 1863, i fyned i Cemaes, Sir Drefaldwyn. Wedi bod am dymor eto heb neb yn eu bugeilio, rhoddodd yr eglwysi hyn alwad drachefn i'r Parch. J. Eiddon Jones, yn awr o Lanrug, Ymgymerodd ef â bugeiliacth Rhiwspardyn, Silo, a Carmel, yn Gorphenaf, 1866. Rhoddodd Carmel i fyny yn 1868, neu y flwyddyn ganlynol, ond bu yn Rhiwspardyn a Silo hyd ddiwedd Hydref, 1870. Er ei fod yn enedigol o un cwr i'r daith, bu yn gymeradwy a defnyddiol yn ystod amser ei weinidogaeth yn y lle. Byddai yn cerdded gyda chysondeb i Rhiwspardyn, i gynal cyfarfodydd eglwysig, cyfarfodydd canu, cyfarfodydd darllen, a chyfarfodydd gyda'r plant ganol yr wythnos. Eu tystiolaeth yn yr eglwys yma ydyw iddo wneuthur llawer o les gyda'r plant a'r bobl ieuainc. Efe a ddaeth a'r drefn o ganu gyda'r Tonic Sol-ffa i'r ardal gyntaf