Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef, ac nid oes cymaint o'i hanes yn wybyddus ychwaith, er ei fod yn byw yn ddiweddarach. Dywedir iddo fod yn gwasanaethu eglwysi y cylch am 40 mlynedd. Os felly, yr oedd yn gofalu am danynt pan y torodd y Diwygiad Methodistaidd allan trwy Howell Harries. Dichon iddo fod yn llwyddianus mewn rhanau eraill o Sir Feirionydd, ac yn y siroedd cylchynol; ond nid oes hanes am yr un eglwys yn Bronclydwr, nac yn un man arall yn Nosbarth y Ddwy Afon, ar ol ei farwolaeth. Yr oedd deugain mlynedd o amser wedi myned heibio ar ol ei farw ef cyn bod dechreu pregethu gan y Methodistiaid o amgylch ardal Bronclydwr; a'r pryd hwnw, teulu o'r enw Walis oedd yn byw yn y lle. Fel hyn, mae yn amlwg ddigon, dybygid, mai dau Ymneillduwr enwog a fu yn llafurio yn Sir Feirionydd yn ystod y ganrif o 1600 i 1700, Morgan Llwyd, o Gynfal, Ffestiniog, y rhan gyntaf o'r ganrif, a Hugh Owen, Bronclydwr, y rhan olaf o honi. Yr Annibynwyr, felly, a lafuriodd gyntaf yn y sir. Ac o'r flwyddyn 1700, nid ydym yn cael fawr ddim o hanes crefydd rhwng y Ddwy Afon, hyd nes y dechreuodd pregethwyr y Methodistiaid bregethu yma—tymor o bedwar ugain mlynedd. Yn Methodistiaeth Cymru, ceir y paragraph canlynol,—"Er engraifft, i ddangos pa mor llwyr yr oedd gweinidogaeth Hugh Owen wedi diflanu o'i gymydogaeth ef ei hun, gellir nodi yr amgylchiad a ganlyn,—Yr oedd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn arfer, pan yn ieuanc, feallai tuag ugain oed, o leiaf cyn iddo ddechreu pregethu, o fyned gyda chyfaill crefyddol arall, i ardal Bronclydwr, i gynal cyfarfodydd gweddiau ar brydnhawn Sabbath. Pan oeddynt yn ymgynyg at hynyma, cawsant mai nid hawdd oedd cael neb a'u derbynient hwy i dy; a thrwy dalu swllt bob Sabbath i ryw amaethwr y cawsant ddrws agored i gynal y fath gyfarfod yma."

Yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, gan y Doctoriaid Rees a Thomas, dywedir: "Bu y rhan yma o'r wlad, rhwng y Ddwy Afon, Mawddach a Dyfi, yn hwy heb ei darostwng tan