Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/481

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y flwyddyn 1843, a rhywle yn agos i'r amser hwnw, gallwn dybio, y dechreuodd bregethu. Ymfudodd i'r America oddeutu ugain mlynedd yn ol. Preswylia yn awr yn ardal Red Oak, Iowa. Parha yn wr llafurus gyda phob rhan o achos yr Arglwydd, a phregetha fel y bydd galwad am dano. Bu yr eglwys yma am flynyddau lawer, ar wahanol amserau, heb ddim ond un blaenor yn perthyn iddi.

Lewis Evans, Tynant.—Dewiswyd ef yn flaenor yn Salem, Dolgellau, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Ebrill 25, 1833. Pan ffurfiwyd eglwys yn Rehoboth, neu yn hytrach yn Hafod—dywyll, yn fuan wedi ei ddewisiad yn Salem, arhosodd yma, ac efe a fu yn flaenor cyntaf yr eglwys, a'i hunig flaenor am lawer o amser. O blith llawer o'i weithredoedd da gyda'r achos, hysbysir am un ffaith hynod. Yr oedd wedi addaw y swm o 5p. at dalu dyled y capel. Talodd haner y swm, ond nis gwyddai yn y byd o ba le i gael yr haner arall. Ac yr oedd ei bryder a'i drallod yn eu cylch yn gymaint fel y methai a chysgu yn ei wely y nos. Yr adeg hon, digwyddodd ystorm echrydus o fellt a tharanau, a gwlaw trwm, pryd yr oedd y teulu oll, yn dad, mam, a phlant, wedi ymgasglu i'r tŷ. Tra yr ymarllwysai y gwlaw i lawr, dyna guro wrth ddrws y Tynant. Boneddwr a'i deulu oedd yno yn ewyllysio cael dod i mewn, i ochel yr ystorm. Caniatawyd iddynt ddyfod yn ebrwydd, a chawsant bob caredigrwydd ac ymgeledd, a chynorthwy i sychu eu dillad gwlybion. Wrth fyned ymaith, estynai y boneddwr 1p. i Lewis Evans, a 1p. i Anne Evans ei wraig, a 10s. rhwng y plant. Dyna yr haner can swllt wedi dyfod! Torodd Lewis Evans allan i wylo. Y boneddwr yn methu deall hyn (oblegid nis medrai ef Gymraeg, ac ni fedrai L. E. Saesneg) a barodd i'w arweinydd ofyn paham yr oedd yn wylo. Mynegwyd iddo yr holl hanes, a'r pryder yr oedd y teulu ynddo i allu talu eu hadduned at y capel. "Wel," ebai y boneddwr, "yr wyf finau yn swyddog eglwysig, a gwn ryw gymaint am bryder gydag achos yr Arglwydd—dyma i chwi 50s. i dalu eich adduned at