Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/488

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystyr wrth lawer o ddiwydrwydd i grefydda yn y fath le. Rhaid cael ffyddlondeb i ddilyn moddion gras ar bob tywydd, nas gwyr pobl y dyffrynoedd a'r trefydd ddim am dano; rhaid boddloni yn fynych ar fod heb weinidogaeth yr efengyl ar y Sabbothau, gan mor aml y rhwystrir cenhadon hedd i gyraedd hyd atynt trwy hin ddrycinog ac ystormus; a rhaid i flaenor— iaid yr eglwys wrth zel mwy na'r cyffredin i ddilyn Cyfar— fodydd Misol y sir gyda dim cysondeb o'r fath bellder. Wedi'r cyfan, y mae yma lawer o fanteision i'r trigolion i fyw yn grefyddol, gan eu bod i raddau helaeth allan o swn a dwndwr y byd. Ac yn ddiamheuol y mae pobl i'r Arglwydd wedi bod yn yr ardal hon, ac yn bod eto. Bydd y weinidogaeth Sabbothol yn aml yn fylchog yn nhymor y gauaf, oherwydd yr hin a phellder y ffordd i gyraedd i'r lle. Parheir yma yr arferiad Fethodistaidd dda o gyrchu a danfon pregethwyr. Bu y gweinidogion canlynol mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys:—Owen Roberts, 1870—1875; W. Lloyd Griffith, 1877—82; John Evans, 1885—87.

Ymysg ffyddloniaid yr achos yma, bu y personau canlynol yn flaenoriaid yr eglwys,—Sion Dafydd, Llechidris; Silvanus Jones, Brynllin; Griffith Jones, Hafodowen; D. Williams, Abergeirw; Evan Ellis, yr Hendre. Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. William Pugh ac Evan Jones.

Silvanus Jones.—Yn Beddcoedwr yr oedd yn byw pan yn ddyn ieuanc, ac yn flaenor yr eglwys yn Brynygath. Ar ei ysgwyddau ef y bu yr achos am lawer iawn o amser, ac yr oedd yntau yn ei gymeryd ar ei ysgwyddau, er myned ar y cyntaf trwy swm mawr o anhawsderau. Adroddai ei hun un ffaith ryfedd yn ei hanes. Pan yn ieuanc yn Beddcoedwr, yr oedd yn gyfyng arno o ran ei amgylchiadau, ac unwaith yr oedd mewn pryder, gan nad oedd ganddo ddim i dalu i'r pregethwr a ddisgwylid ryw Sul i Frynygath. Yn y cyfamser, trigodd buwch iddo; aeth yntau a'r croen i Drawsfynydd i'w werthu.