Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/492

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a phregethu am lawer o flynyddoedd yn ganlynol i hyn, a llwyddiant mawr ar yr achos crefyddol, ac achubwyd llawer i fywyd tragwyddol yn y lle hwn, ac ychwanegwyd at yr eglwys yn Llanfachreth." Yr oedd L. W. yma yn cadw ysgol o Mai 21ain hyd Gorphenaf 15fed, 1816, sef am wyth wythnos. Yr oedd y nifer gydag ef yn yr ysgol yn 61, ac amrywient yn eu hoedran o 4 i 29. Bu Richard Roberts, Hafodyfedw, wedi hyny y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, yn hynod o ffyddlon gyda'r Ysgol Sul yn y lle hwn pan yr oedd yn ddyn ieuanc.

Ymhen ysbaid dwy flynedd wedi i'r ysgol ddyddiol fod yn Buarthyrê, torodd allan yn ddiwygiad grymus gyda chrefydd yno. Gweinidogaeth y Parch. D. Rolant, y Bala, a fu yn anarferol o nerthol yn y cymoedd hyn yr adeg yma. Yr oedd ef newydd ddechreu pregethu, a Cwmtylo, ei gartref boreuol, yr ochr arall i'r mynydd, heb fod ymhell oddiyma. Adroddir yn ei gofiant, gan un oedd yn llygad-dyst o'r amgylchiadau a gymerasant le yn y flwyddyn 1818, yr hanes canlynol, "Yr ydwyf yn cofio am un Sabbath yn neillduol, er's pedair neu bum mlynedd a deugain yn ol. Yr oeddwn i a lliaws o rai eraill, yn myned gydag ef (D. Rolant) ar foreu y Sabbath crybwylledig o Frynygath i Canycefn, yn mhlwyf Traws- fynydd, i wrando arno yn pregethu. Yr oedd yn ddigon gostyngedig i gyd-gerdded â ni yn droed-noeth-goes-noeth. Yr oedd y cwmni oll o'r bron yn ddigrefydd; ond cawsom bregeth ddifrifol iawn yn Canyeefn, yr hon a'n gorfododd ninau i fod yn ddifrifol yn gwrando y boreu hwnw. Am ddau o'r gloch, cawsom bregeth ganddo yn ysgubor Buarthyrê ;- pregeth rymus ac argyhoeddiadol iawn oedd hon. Yr oedd yn effeithio felly i raddau pell ar y gynulleidfa; yr oedd y rhan fwyaf yn gwaeddi yn gyffrous. Dyma y tro cyntaf i lawer o honynt ddeall fod ganddynt eneidiau, fel y cyfaddefent ar ol hyny, ac yn eu plith yr oedd y Parch. Morris Roberts, gynt o Frynllin, ond yn awr o'r America; yr hwn a edrychai