Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/497

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel gwas ffyddlon i Grist, a swyddog gwerthfawr yn ei eglwys; yr oedd galar mawr yn yr ardal ar ei ol, a phawb yn dwyn tystiolaeth i wirionedd ei grefydd. Bu farw Ebrill 20, 1875, yn 67 mlwydd oed.

CARMEL.

Yn y flwyddyn 1834, adeiladwyd capel Carmel, ar dop uwchaf y llechwedd sydd uwchlaw gorsaf y Bont Newydd, ac yn gwynebu ar Gader Idris. Yn flaenorol i'r flwyddyn hon, perthynai mwyafrif trigolion yr ardal i'r Methodistiaid yn Llanfachreth, ac yno yr elent i gael moddion gras. Ond yr oedd Ysgol Sul yn cael ei chynal yn y gymydogaeth er yn bur foreu, mewn lle a elwid Ty Newydd Ystumgwadnau. Safai y tŷ hwn o'r tucefn i'r lle y saif y capel; ac yr oedd wedi cario yr enw newydd gyd ag ef o ryw amser pell yn ol, oblegid hen ydoedd yr amser y cynhelid yr ysgol ynddo. Y mae y capel lawer yn rhy agos i'r mynydd, ond yr oedd y tŷ hwn beth yn nes drachefn, yr hyn sydd yn brawf gweledig ac arhosol o'r anhawsder yr oedd yr hen bobl ynddo i gael lle i addoli. Yr oedd yn rhaid i'r ardalwyr ymwthio i'r lle pellaf i adeiladu eu capel, oherwydd yr anmhosibilrwydd y pryd hwn i gael lle mwy cyfleus, gan faint yr elyniaeth a ddangosid gan fawrion y wlad tuag at Ymneillduaeth. Yr oedd yr Ysgol Sul yn yr ardal hon o dan arolygiaeth ysgol flodeuog Llanfachreth, ac anfonid dynion oddiyno i helpu i'w chario ymlaen. Ac ar derfyn chwarter cyntaf y ganrif hon, yr oedd i ysgol y Ty Newydd le amlwg yn nghynadleddau, ac ar lyfrau y dosbarth. Yr oeddis, hefyd, rai blynyddau cyn adeiladu y capel, wedi dechreu cynal moddion heblaw ysgol yno. Mewn cyfarfod o swyddogion y dosbarth, yn niwedd 1831, "Sylwyd mewn perthynas i Lanfachreth a Ty Newydd. Anogwyd i un o flaenoriaid Llanfachreth feddwl am yr achos yn Ty Newydd, trwy fod yno ymhob cyfarfod, a chasglu i fod yn nghymdeithas neillduol Ty Newydd, &c. Fod i Edward Foulk, Hugh