Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/499

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dydd yr adeiladwyd ef hyd heddyw oedd rhoddi ceiling arno. Agorwyd y capel Mehefin 30, 1834, a phregethwyd ynddo gyntaf gan y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, oddiar Matt. xi. 28, 29. Y mae enwau y pregethwyra fu yma yn pregethu, yn nghyda'u testynau wedi eu cadw yn ddifwlch gan Griffith Roberts, Tyntwll, o'r dechreu hyd 1874; a phan na fyddai testyn i'w gofnodi ar gyfer y Sabbath, yr hyn sydd wedi ei ysgrifenu yn y llyfr ydyw—tori cyhoeddiad.

Rhif yr aelodau eglwysig y flwyddyn yr agorwyd y capel oedd 35. Tachwedd 21, 1836, ffurfiwyd yma Gymdeithas Ddirwestol, a cheir fod 80 o enwau ar lyfr dirwest perthynol i'r capel y flwyddyn hon. Ar doriad allan yr achos Dirwestol gyntaf, ymddengys fod zel y bobl yn fawr o'i blaid yn yr ardaloedd hyn, ac fe wnaeth yr achos ddaioni dirfawr. Bu achos crefydd yn flodeuog yma dros rai blynyddau wedi adeiladu y capel, a dywedir y byddai y lle mor llawn ar odfeuon cyffredin y Sabbath, fel y byddai raid i rywrai sefyll ar eu traed yn wastad i wrando. Mor wahanol ydyw yn awr. Oherwydd mynych symudiadau a chyfnewidiadau y mae y gynulleidfa yn bresenol yn un o'r rhai lleiaf o fewn cylch y Cyfarfod Misol.

Ceir cipolwg ar eu dull o gario y gwaith ymlaen yr adeg yma mewn rhai penderfyniadau a welir yn llyfrau yr eglwys. Wele rai o honynt. "Cytunwyd i John Griffith gael myned i fyw i dŷ y capel, am y rhent o 8s. yn y flwyddyn a'r trethi. Ac ymrwyma John Griffith a'i wraig i roddi bwyd i'r pregethwyr am 6c. y pryd, a rhoddi pob ymgeledd iddynt hwy a'u ceffylau a fyddo yn addas; a phan ddelo pris y gwenith yn 8s. y peck neu bushel, y maent yn ymrwymo i roddi pob pryd ond cinio am 4c. y pryd, a phob cinio yn sefyll yr un modd ag o'r blaen, sef 6c. y pryd." Eto, cynhaliwyd cyfarfod brodyr Tachwedd 25, 1840, yn yr hwn y penderfynwyd—1. I John Griffith gael 8s. yn lle tobacco a chario mawn hyd heno. 2. I roi i John Griffith, at gario tanwydd, yn y flwyddyn, 15s., a hyny yn dechreu Mai, 1841, a'r rhent a'r trethi yr un modd.