Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/501

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a bu raid iddo fod allan trwy y nos. Ymhen amser dychwelodd i fyw i ymyl Llanfachreth drachefn, ac erbyn hyn yr oedd wedi enill ffafr y boneddwr a'i troes ef o'i dyddyn, yr hwn a ddywedai am dano "Does genych chwi neb yn dduwiol yn nghapel y Llan ond Robert Griffith." Dyn crefyddol, a gweddïwr heb ei fath oedd y gwr hwn. Meredith Evans, Tycerig.—Yn fwy diweddar yr oedd ef yn y swydd. Bu farw Chwefror 15fed, 1868. Yr oedd yn ŵr hynaws a chymeradwy, yn un a gyfranodd lawer at yr achos, ac a letyodd lawer ar bregethwyr. Dewiswyd ef yn flaenor yr un amser a Griffith Jones, Ceimarch, a derbyniwyd hwy yn aelodau o'r Cyfarfod Misol yn Llanegryn yn 1855. Yn y Cyfarfod Misol hwnw yr oedd y Parch. Cadwaladr Owen, Dolyddelen, yn eu holi. Teimlai G. Jones yn ddigalon ar y ffordd yno, gan yr ofnai y caent eu holi yn galed. "Waeth i ni heb ddigaloni," ebe Meredith Evans, "dydw i yn hidio mohynt, fe gant fy ngwrthod i os dewisant." Gofynwyd iddo yn y Cyfarfod Misol, "Oes genych chwi Gyfes Ffydd?" "Nac oes," ebai yntau. "Welsoch chwi un?" gofynid iddo drachefn. "Na welais i, ond mi glywais son am dano." "Wel," gofynid iddo eto, "sut y buasech chwi yn disgyblu, os nad oes genych Gyffes Ffydd?" "Yn ol y Beibl y buaswn i yn disgyblu; ac os ydyw y Gyffes Ffydd yn iawn, mae yn rhaid ei fod yr un fath â'r Beibl,"

Griffith Roberts, Tyntwll.—Blaenor oedd ef o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na'r cyffredin. Gŵr doeth, pwyllog, defosiynol, cydwybodol i grefydd. O ran ei ymddangosiad allanol, yr oedd mor debyg i Mr. Humphreys, Dyffryn, fel y daeth blaenor ato unwaith yn Sasiwn y Bala i ofyn cyhoeddiad iddo, gan ei gamgymeryd am Mr. Humphreys, ac ni chymerai y blaenor mo'i argyhoeddi ei fod wedi camgymeryd nes i'r gweinidog o'r Dyffryn wneyd ei ymddangosiad yn y fan a'r lle, i dori y ddadl. "Griffith," ebe Mr. Humphreys, "rhaid i ti beidio dyfod mor daclus i'r Sasiwn, onide ti äi a'r trâd