Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/502

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiarnaf fi." Dyfod i'r ardal hon a wnaeth yn oruchwyliwr ar etifeddiaeth Syr Robert Vaughan. Yr oedd y boneddwr wedi dyfod i benbleth gyda'i oruchwyliwr blaenorol, a rhoes rhywun hanes G. R. iddo. "Wel," ebe y boneddwr, "ond ydi o yn perthyn i'r pethau yna." "Chewch chwi neb gonest," oedd yr ateb, "heb ei fod yn perthyn i ryw rai." Modd bynag, daeth y boneddwr a'i oruchwyliwr newydd yn fuan yn gyfeillion mawr. Ond ni pheidiodd Griffith Roberts a bod yn Fethodist trwyadl er ei ddyrchafu i'r swydd o oruchwyliwr ar etifeddiaeth boneddwr o fri. Yr oedd dealltwriaeth rhyngddo â'i feistr i gael myned i Ddolgellau neu i Ystumgwadnau i addoli. Byddai y ddau yn cyfarfod â'u gilydd yn fynych ac yn ymddiddan yn gyfeillgar. Yr oedd G. R. o duedd lwfr, ac un tro, wedi cael ei gythraddo gan ryw berson oedd wedi dangos casineb tuag ato, edrychai yn fwy prudd nag arfer; y boneddwr yn deall fod rhywbeth yn ei flino, wedi cael gwybod yr achos, a ddywedodd wrtho, "Wel, fedr neb dori dy garictor di os na wnai di dy hun." Ond daeth Griffith Roberts yn deilwng i fod yn oruchwyliwr, nid ar etifeddiaeth ddaiarol yn unig, ond ar eglwys Dduw. A goruchwyliwr gonest, gweithgar, ffyddlon ydoedd. Dyn nodedig o werthfawr ydoedd ymhob cylch, ac yn arbenig yn y cyfarfod eglwysig. Adroddai yr Hyfforddwr gyda'r fath briodoldeb ac eneiniad a barai i'r rhai a'i clywai feddwl yn uwch o'r llyfr hwnw nag erioed. Un o'i hynodion penaf oedd gonestrwydd gyda phethau bydol ac eglwysig. A chredir yn gyffredinol i'w onestrwydd trwyadl ymhob peth fod yn foddion i leddfu llawer ar elyniaeth y boneddwr, yr oedd yn oruchwyliwr dano, at Ymneillduaeth. Meddai ef y llaw benaf gydag adeiladu capel Carmel, a bu ef a'i briod yn golofnau cryfion o tan yr achos yma hyd ddiwedd eu hoes.

Llanwai le pwysig yn y dosbarth hefyd, ac fel aelod o'r Cyfarfod Misol. Penodid ef yn fynych gan ei frodyr crefyddol i swyddau o ymddiried. Fel engraifft o'i onestrwydd fel swyddog eglwysig, crybwyllir y pethau canlynol.