Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/511

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brawd ffyddlawn, David Lewis, Braich—y—goeswen, £20 yn ei ewyllys tuag at yr achos hwa. Y flwyddyn gyntaf ar ol ffurfio yr eglwys, 28 oedd nifer y cymunwyr, a'r gwrandawyr yn 45. Y flwyddyn ddiweddaf yr oedd y cymunwyr yn 40, a'r gwrandawyr yn 80. Y mae cynydd cyfatebol hefyd yn y casgliadau. Llesg a difywyd fu yr eglwys yn hir, ond gwelir fod arwyddion eglur o fywyd ynddi yn awr.

Yn fuan wedi myned i'r capel, ac i'r cyfeillion ymffurfio yn eglwys, anfonwyd y Parch. David Davies, a Mr. John Timothy, o'r Abermaw, yma dros y Cyfarfod Misol i gynorthwyo mewn dewis blaenoriaid, a William Vaughan, a John Jones a ddewiswyd yn ddau flaenor cyntaf yr eglwys. Yr oedd William Vaughan yn fab i Sion Fychan Fach, o Lwyngwril. Wedi gwasanaethu swydd diacon yn Saron o ddechreuad yr achos, bu farw yn y flwyddyn 1879. Symudodd Mr. Timothy o'r Abermaw i'r ardal hon i fyw trwy briodi, a neillduwyd yntau yn flaenor yr eglwys yma. Wedi marw William Vaughan, nid oedd neb am dymor yn flaenor ond efe. Ar ol hyny dewiswyd Mr. T. J. Stevens, Gyfanedd Fawr, a Mr. Thomas Williams, Hendolldy, y Friog. Ond ni ddaeth yr olaf ymlaen i gael ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol. Ddechreu y flwyddyn hon, drachefn, neillduwyd i'r swydd Mr. John Jones, yr hwn a fu yn absenol oddiyma dros amryw flynyddau, a Mr. Ellis Williams, yntau wedi bod yn flaenor yn Rehoboth yn flaenorol. Enwir brodyr eraill a wnaethant wasanaeth i'r achos bychan hwn—Griffith Humphreys, Ynysgyffylog; Owen Roberts, Panteinion; Lewis Davies, Brynmeurig, a roddodd ei ysgwydd dan yr achos, ac a fu yn gweithredu fel trysorydd yr eglwys; Edward Humphreys, Brynmeurig, a fu yn arwain y canu am flynyddau symudodd i Lwyngwril, ac wedi hyny i'r America; Dafydd Evan, Gyfanedd Fach, oedd yn hynod yn amser y diwygiad, a bu yn gefn i'r achos yma o'i ddechreuad. Ac am deulu Panteinion, y mae yn wybyddus iddynt hwy oll fod yn gefn mawr i'r achos o'i ddechreuad hyd yn awr.